Home > Diwydiant Teithio > Y Tîm Diwydiant Teithio

Y Tîm Diwydiant Teithio

Ym myd hynod o gystadleuol y Diwydiant Teithio rhyngwladol, gyda chymaint o leoliadau i ddewis o’u plith, mae’n pwyslais ni ar roi gwerth am arian. Mae hyn yn un rheswm pam fod Caerdydd yn dod yn fwy poblogaidd a llwyddiannus yn barhaol, gyda’i dewis helaeth o Atyniadau, Gwasanaethau a chyfleusterau i ymwelwyr sydd am ddod ar wyliau, ar fusnes, neu i gynadleddau.

Mae adran Marchnata Lleoliad Caerdydd yn bwynt cyswllt unigol i bawb sy’n ymweld â'r ddinas, er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn cynnig y gorau posibl i'w hymwelwyr i gyd. Mae’r tîm profiadol a gwybodus yn adran Marchnata Lleoliad Caerdydd ar gael bob amser i roi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch cynllunio a threfnu unrhyw ymweliad â'r ddinas a'r cylch.

Rydym yn adnabod anghenion grwpiau ac unigolion ac anghenion teithio hamdden a theithio busnes cystal ag yr ydym yn adnabod Caerdydd a’r cyfan mae’n ei chynnig. Rydym yn cynrychioli cannoedd o westai, bwytai, Atyniadau, canolfannau cynadleddau ac arddangosfeydd, Gwasanaethau adloniant, teithio a thwristiaeth yn yr ardal, ac mewn sefyllfa ddelfrydol i’ch cyfeirio at bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn cael amser difyr, hudol a rhyfeddol yng Nghaerdydd.  

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
Dewis a threfnu llety
Awgrymiadau am deithiau arbenigol
Cyngor a threfniadau teithio
Trefnu ymweliadau i gynefino a darganfod ffeithiau
Rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau, lleoliadau a Gwasanaethau sydd ar ddod
Rhoi syniadau newydd i’w cynnwys yn eich rhaglen
• Rhoi llenyddiaeth a ffotograffau i chi

 

Dewch i’n cyfarfod!

Rydym hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod yn bersonol â chi. Yn 2006 dewch draw i’n stondin yn un o’r sioeau hyn:  

I ddarganfod Caerdydd a’r cyfan sydd gan y ddinas i’w chynnig, ffoniwch ni ar +44 (0) 29 2087 1739 neu anfonwch e-bost i marketing@cardiffandco.com