Home > Sut i Gyrraedd
Teithio a Mynediad
Mae’n rhwydd cyrraedd Caerdydd o unrhyw le yn y DU neu dramor. Unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd y ddinas, mae’r Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd ac yn ddibynadwy.
Mapiau Caerdydd
Cliciwch yma i lwytho map canol dinas Caerdydd (pdf 900kb)
Cliciwch yma i lwytho map rhanbarth Caerdydd (jpeg 250kb)
Drwy Hedfan
Mae gan Gaerdydd ei maes awyr rhyngwladol ei hun, gydag awyrennau uniongyrchol rheolaidd o leoliadau drwy'r DU ac Ewrop.
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd: www.cwlfly.com, Ffôn: +44 (0) 1446 711111
Awyrennau i Faes Awyr Caerdydd
• KLM: www.klm.com Cwmni rhyngwladol yn hedfan yn uniongyrchol i Gaerdydd o Amsterdam, gyda chysylltiadau i weddill y byd
• Bmibaby: www.bmibaby.com Awyrennau rhad yn uniongyrchol o Ewrop, gan gynnwys yr Iseldiroedd, Sbaen, Ffrainc, Iwerddon a'r Alban
• Aer Arann: Sea" href="http://www.aerarann.com/" target="_blank">www.aerarann.com Yn hedfan o Ddulyn, Cork a Galway
• Eastern Airlines: www.easternairways.com Yn hedfan o Newcastle
• Air South West: www.airsouthwest.com Yn hedfan o Newquay a Manceinion
Dim ond awr i ffwrdd yw Maes Awyr Rhyngwladol Bryste, gyda Continental Airlines yn hedfan yn uniongyrchol o’r Unol Daleithiau ac awyrennau rhad EasyJej yn cynnig teithiau o Ewrop, gan gynnwys Yr Almaen, ac o’r DU. Mae Meysydd Awyr Birmingham, Manceinion a Llundain (Heathrow, Gatwick. Stansted a Luton) hefyd o fewn pellter agos i Gaerdydd drwy drenau cyflym InterCity neu fysus.
O/I Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Tacsis
Mae ceir Checker, sef cwmni tacsi swyddogol y maes awyr, y tu allan i’r neuadd gyrraedd ar y dde wrth i chi ddod allan o’r adeilad. Mae’r tacsis ar gael wrth i chi gyrraedd, neu fe ellir eu trefnu ymlaen llaw drwy anfon e-bost at cardiff@checkercars.com neu drwy ffonio +44 (0)1446 711747.
Mae swyddfa Checker ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Rhannu Bws Gwennol i’r Maes Awyr
Fe allwch chi drefnu i rannu bws gwennol i'r maes awyr neu archebu car moethus gyda gyrrwr cyn i chi gyrraedd Caerdydd. Cysylltwch â Flightlink Wales ar +44 (0)29 20 253555, anfonwch e-bost at sales@flightlinkwales.com neu ewch i www.flightlinkwales.com
Mewn Car
Mae Caerdydd yng nghanol system draffordd genedlaethol y wlad. Mae’r M4 yn pasio gogledd y ddinas, sy’n golygu fod Llundain o fewn pellter gyrru cyfforddus. O’r Canolbarth, Gogledd Lloegr a’r Alban, mae’n daith hawdd ar hyd yr M6, M5 a’r M50/M4. O Dde a De Orllewin Lloegr mae'n daith ar hyd yr M5 a'r M4. Mae'r daith o Orllewin Cymru ar hyd yr M4.
I gael y manylion diweddaraf am Barcio Ceir yng Nghaerdydd - ewch i Safle Traffig Cyngor Caerdydd.
Ar Fws
• Bysus National Express: Mae gan www.nationalexpress.com wasanaethau bws rhad i Gaerdydd o ddinasoedd drwy'r DU, gan gynnwys cysylltiadau â meysydd awyr Heathrow a Gatwick.
• Megabus: Mae gan www.megabus.com wasanaeth rheolaidd rhwng Llundain a Chaerdydd ymhlith nifer o rai eraill, gyda'r prisiau cyn lleied â £1
• Bws Caerdydd: Mae gan www.cardiffbus.com wasanaethau o drefi cyfagos i Gaerdydd, yn ogystal â gwasanaeth bysus plygu’r ‘baycar’ rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.
• Llinell deithio: ewch i www.traveline.org.uk i gael gwybodaeth lawn am drafnidiaeth gyhoeddus.
Ar Drên
Mae trenau cyflym InterCity i’w cael rhwng Caerdydd a’r rhan fwyaf o ddinasoedd. Mae’r trenau rhwng Paddington yn Llundain a Chaerdydd yn para llai na dwy awr ac yn gadael bob 30 munud yn ystod y dydd.
Mae gan y rheilffyrdd rhanbarthol drenau modern gyda systemau awyru yn uniongyrchol i Gaerdydd o Firmingham, Manceinion, Lerpwl, Nottingham, Bryste, Southampton, Caerwysg, Torbay a Portsmouth.
• Ymholiadau National Rail: 08457 48 49 50
• Ymholiadau National Rail o dramor (Sylwch: Cyfraddau rhyngwladol yn berthnasol): +44 (0)20 7278 5240
• Ymholiadau National Rail dros Ffôn Testun: 0845 60 50 600
• Llinell Gymraeg: 0845 60 40 500
• Central Trains: ewch i www.centraltrains.co.uk i gael gwybodaeth am wasanaethau rheilffordd drwy Ddwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae Gwasanaethau pell yn rhedeg o Ganolbarth Lloegr i Dde Cymru ac o Ogledd Orllewin Lloegr, East Anglia ac Arfordir y Dwyrain
• First Great Western:ewch i www.firstgreatwestern.co.uk i gael gwybodaeth drenau o Lundain a De a Dwyrain Lloegr
• Trenau Arriva: ewch i www.arrivatrainswales.co.uk i gael gwybodaeth am drenau yng Nghymru ac o’r ffin â Lloegr. Hefyd ewch i www.walesflexipass.co.uk i gael gwybodaeth am Docyn Fflecsi Cymru a Thocyn Fflecsi Rover De Cymru.
• Eurostar: + 44 (0)990 186 186, www.eurostar.com i gael gwybodaeth am drenau o Ewrop i Lundain
• Eurostar: + 44 (0)990 186 186, www.eurostar.com i gael gwybodaeth am drenau o Ewrop i Lundain















