Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Diwydiant Teithio > Trefnu Teithiau > Teithiau Un Diwrnod

Teithiau Un Diwrnod

Pentrefi Celtaidd, gwinllannoedd ‘Cariad’ a golygfeydd o’r castell

 

Gyda chan acer o gefn gwlad prydferth, mae lle hudol wedi’i greu. Mae cartrefi gwreiddiol o wahanol gyfnodau yn hanes Cymru wedi’u hailgodi i greu Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Mae croeso i ymwelwyr archwilio’r holl adeiladau o gytiau mwd 2000 o flynyddoedd oed i blasty trawiadol o gyfnod Elisabeth. Mae cyfle i weld crochenydd, gwehydd, turniwr coed, pobydd, barcer a nifer o grefftwyr eraill wrth eu gwaith. Os bydd aroglau’r bara’n pobi wedi codi archwaeth arnoch, beth am gael cinio yn y ffreutur neu gacenni cri yn yr ystafelloedd te Fictoraidd? Ar ôl hynny, fe allwch chi ymlacio yng nghanol y grawnwin yng Ngwinllan Llanerch. Nid yn unig y mae’r winllan brydferth hon yn creu gwinoedd gwych o dan label ‘Cariad’, ond mae hefyd yn bosibl cael teithiau o amgylch y winllan a’r gwindy, gyda sesiwn flasu gwin yn goron ar y cyfan. Yn olaf, ewch i Gastell Coch, y castell tylwyth teg hynod ar y bryniau coediog i’r gogledd o Gaerdydd. Ar brydiau, mae’n rhaid ceisio peidio â gadael i ystafelloedd hyfryd yr adeilad rhamantaidd hwn dynnu’ch golwg o’r ffenestri, ble mae modd mwynhau golygfeydd gwefreiddiol o Gaerdydd.

 

 

Caerdydd o'r ganrif gyntaf i’r unfed ganrif ar hugain

 

Yng nghanol y ddinas, mae Castell Caerdydd yn syfrdanol. Yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, mae'r safle wedi'i etifeddu sawl gwaith dros yr oesoedd. O ganlyniad, mae Gorthwr Normanaidd o'r ddeuddegfed ganrif bellach yn sefyll ochr yn ochr ag Ystafelloedd neo-Gothig Brenhinol hardd, sy’n gwbl unigryw. Mae’n werth mynd ar y daith dywys, sy'n cyfuno hiwmor gyda gwerthfawrogiad o'r castell hudol, cyfoethog hwn. Dros y ffordd i’r Castell, gellir cael cinio Cymreig traddodiadol yn y Celtic Cauldron.
Ar ôl cinio, ffordd wych i gael teimlad o’r ddinas syfrdanol hon (a’r ffordd orau os yw’r coesau’n flinedig!) yw neidio ar
fws to awyr agored y tu allan i'r castell. Nid yn unig y gallwch adael ac ymuno â’r bws fel y mynnoch, ond bydd hefyd yn eich cludo i ganol yr unfed ganrif ar hugain ac i ardal Bae Caerdydd ar ei newydd wedd. Ewch i ffwrdd yn y fan hon, a galw heibio’r Ganolfan Groeso fodern, neu’r 'Tiwb'. Cofiwch roi digon o amser i weld yr Atyniadau niferus fel Canolfan Gelfyddydol yr Eglwys Norwyaidd, Goleulong 2000 a phrif ganolfan darganfod gwyddoniaeth y DU, Techniquest. Yn y fan hon, mae llond lle o ddyfeisiau hynod, posau a phobl frwdfrydig yn ‘arbrofi’. Yn wir, Techniquest yw’r lle perffaith i annog yr ifanc a’r hen i ymuno yn yr hwyl a mwynhau rhyfeddodau gwyddoniaeth. Fe allwch chi hefyd ymweld â datblygiad celfyddydol mwyaf cyffrous Ewrop ar hyn o bryd: Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd tywysydd yn eich arwain o amgylch yr adeilad hynod hwn, sy’n llwyfan rhyngwladol i fale, opera, theatr a dawns ac yn gartref hefyd i saith o gwmnïau celfyddydol gwahanol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru.

 


Blas o Gymru a hwyl anturus

 

Os hoffech chi gael blas o Gymru, ewch i Winllan Llanerch, y winllan fasnachol fwyaf yng Nghymru. Mae gan y winllan 7 acer o winwydd, ble gallwch chi ddilyn llwybrau drwy goedwigoedd fferm a llynnoedd sydd wedi’u diogelu. A pheidiwch ag anghofio blasu’r gwin Cymreig hyfryd yn y ganolfan ymwelwyr.  
Ar ôl hynny, ewch am dro i Erddi Dyffryn, stad sy'n dyddio'n ôl i’r seithfed ganrif gyda gardd ysblennydd yn llawn rhywogaethau a gasglwyd yn ystod teithiau i ddod o hyd i blanhigion o bedwar ban y byd ar ddechrau'r 1900au.  Hoffech chi roi cynnig ar rywbeth mwy anturus? Mae saethu paent, saethu colomennod clai, saethyddiaeth, beicio cwad a hyd yn oed gyrru cerbydau 4x4 oddi ar y ffordd ar gael.
Fe allwch chi hefyd chwarae golff ar Gwrs Cwpan Ryder - gellir chwarae rownd yng Ngwesty'r Celtic Manor ble bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn 2010.

 

 

Y Cymoedd, yr aur du a’r dyddiau gynt

I ddod o hyd i’r Aur Du a ddaeth â chyfoeth mawr i Gaerdydd, ewch i Gwm Rhondda (i’r gogledd o Gaerdydd). Parc Treftadaeth y Rhondda yw’r fan, ar ôl taith i grombil y ddaear, y gellir dod o hyd i gyfrinachau’r pyllau glo. Yn wir, ynghyd â chlywed storïau bywiog hen lowyr, crwydro strydoedd hen bentrefi a gweld arddangosfeydd rhyfeddol, fe gewch ddarlun byw o fywyd yn y pwll glo. Mae’n rhaid cael cinio ym mwyty'r Galeri cyn symud ymlaen i'r cwm nesaf.
Dilynwch y profiad tanddaearol gyda phrofiad cyffrous ‘ar y wyneb’.Mae Llwybr Buggy Bro Taf yn rhoi cyfle i werthfawrogi tirlun hyfryd Cymru, a hynny ar gefn Cerbyd Pob Tir Honda 200 cc!
Yn nhrydydd cwm y daith hon, sef Cwm Rhymni, y saif plasty Tuduraidd enwog
Llancaiach Fawr. Ond efallai mai’r hyn sydd y tu mewn sy’n fwy anghyffredin. Wedi’i ddal mewn amser, mae’r plasty wedi aros yn yr ail ganrif ar bymtheg; mae’r gweision a’r morynion yn dal i siarad a gwisgo yn arddull yr oes a byddant yn eich diddori gyda straeon anhygoel a hanesion o gyfnod y Rhyfel Cartref.  

- Llwybr Buggy Bro Taf (Ffôn: +44(0) 29 20 831658, www.adventurewales.co.uk


Amgueddfa, Glowr a Phlasty

(hefyd yn addas mewn tywydd gwlyb)

Taith yn llawn amrywiaeth a gwrthgyferbyniadau yw hon. Fe allwch chi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd wedi’i hadeiladu o gerrig Portland cain yng nghanol Canolfan Ddinesig Caerdydd, a chrwydro drwy’r arddangosfeydd rhyfeddol, gan gynnwys Esblygiad Cymru, sef taith wefreiddiol drwy’r 4,600 miliwn o flynyddoedd diwethaf yn defnyddio roboteg ac effeithiau clyweled. Mae yno hefyd arddangosfa Hanes Naturiol Cymru a chasgliad amhrisiadwy o waith yr Argraffiadwyr a’r Ôl-Argraffiadwyr – y mwyaf y tu allan i Ffrainc. Ar ôl hynny, teithiwch i’r gogledd o’r ddinas am 40 munud ar hyd yr A470 i’r cymoedd gwyrdd a Pharc Treftadaeth y Rhondda (mae arwyddion o’r A470).  Bydd cyn-löwr yn eich tywys ar daith mewn “cawell" i waelod y pwll ac yn eich diddori gyda'i hanesion diddorol am fywyd yn ystod oes aur glo Cymru. Bydd stryd bentref o’r cyfnod hefyd yn dod â’r hanes cymdeithasol yn fyw. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y wyneb eto, fe allwch chi fwynhau cinio ysgafn yn y ffreutur a chrwydro drwy’r oriel gelf a’r siop anrhegion.
Drwy yrru yn ôl tuag at yr A470 nid yw
Llancaiach Fawr ond dafliad carreg i ffwrdd (tuag 20 munud oddi ar yr A472, gan adael yr A470 ymhellach i’r gogledd yn Abercynon). Plasty sy’n darlunio bywyd yn ystod Rhyfel Cartref yr ail ganrif ar bymtheg yw Llancaiach Fawr, ble mae gweision a morynion yn eu gwisgoedd yn adrodd straeon a hanesion am fywyd yn ystod cyfnod y Cyrnol Edward Prichard fel meistr y tŷ. Mae’n un o dai bwganod enwocaf Cymru, felly os na fyddwch chi allan oddi yno cyn i’r haul fachlud, efallai yr hoffech chi aros i gael golwg ar ysbryd neu ddau neu fynd ar daith ysbrydion yng ngolau cannwyll (mis Hydref-mis Mawrth). Mae rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau gan gynnwys hebogyddiaeth, brwydrau'r Rhyfel Cartref, saethyddiaeth a ffeiriau gwlad yn sicrhau nad oes yno fyth funud ddistaw yn y plasty.