Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Diwydiant Teithio > Trefnu Teithiau > Teithiau Hanner Diwrnod

Teithiau Hanner Diwrnod

Posibiliadau

 

Yr Hynafol a’r Modern Law yn Llaw

Ym mhrifddinas Cymru, fe allwch chi gerdded drwy amser – o gyfnod y Rhufeiniad i’r cyfnod modern. Canolfan ddaearyddol a hanesyddol y ddinas yw Castell Caerdydd. Dewch i mewn i gwrt anferth, sy’n cyfateb yn fras i siâp y gaer Rufeinig wreiddiol. Yna symudwch at y mwnt Normanaidd, gyda'i orthwr o'r unfed ganrif ar ddeg sy'n edrych i lawr ar dyredau a thyrau prif adeiladau'r castell o'r bedwaredd a'r bymthegfed ganrif ar ddeg. O 1866, cyflogodd 3ydd Ardalydd Bute yr athrylith o bensaer, William Burges, i weddnewid ystafelloedd byw’r Castell. Mae gan bob ystafell grand ei thema arbennig ei hun, gan gynnwys gerddi canoldirol ac addurniadau Eidalaidd ac Arabaidd.
O’r hynafol, camwch i’r unfed ganrif ar hugain a mwynhau gwir brofiad y mileniwm yn Stadiwm y Mileniwm. Mae teithiau ar gael yno gydol y dydd. Fe allwch chi glywed sut deimlad yw camu i Amffitheatr Chwaraeon Cymru - ac yn profi'r teimlad hwnnw eich hun! Fe gewch chi wybod sut mae’r maes yn cael ei osod, gan ddefnyddio 7,400 paled, a darganfod sut mae 800 tunnell o ddur yn agor a chau'r to symudol.

 

 

Parciau, Darluniau a Pharadwys Siopa

Cerddwch drwy Barc Cathays i’r Ganolfan Ddinesig drawiadol a’i cherrig Portland, ymhle mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’i hamryw o arddangosfeydd hynod. Fe allwch chi weld un o’r casgliadau mwyaf o waith yr Argraffiadwyr y tu allan i Baris, sy’n cynnwys gweithiau gan Van Gogh, Monet, Renoir a Cëzanne ynghyd â chasgliadau syfrdanol eraill, o Naturoliaeth i Swrrealaeth.  Ond cofiwch adael digon o amser i weld yr arddangosfeydd eraill, fel yr ail-grëad o’r Glec Fawr, creaduriaid byw o Oes yr Iâ, madfallod a dinosoriaid anferth sy’n rhan o’r arddangosfa Esblygiad Cymru.  
Ar ôl hynny, ewch yn ôl i ganol y ddinas i grwydro o amgylch
siopau niferus Caerdydd. Unwaith eto, mae’r hen a’r newydd yn cyd-fynd yng Nghaerdydd, gydag arcedau siopa Edwardaidd ochr yn ochr â chanolfannau siopa modern. Mae Heol y Frenhines yn baradwys i siopwyr, yn stryd heb draffig gyda blodau ac amrywiaeth wych o siopau.


Y Mawr a’r Mawreddog

Castell Caerffili yw un o gestyll mwyaf mawreddog Prydain. Mae’r castell hanner awr i ffwrdd o Gaerdydd yn y car (A470, ewch oddi ar y lôn honno am Gaerffili ar yr A468 a dilyn yr arwyddion). Â hwnnw wedi’i leoli mewn 30 acer o dir, y castell yw'r mwyaf yng Nghymru, a dim ond rhai Windsor a Dover sy'n fwy ym Mhrydain. Yn dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, mae gan y castell system unigryw o amddiffynfeydd dŵr, gwrthfuriau hynod, tŵr cam sy’n plygu’n fwy serth nag un Pisa a neuadd wledda ysblennydd gyda cherfiadau cerrig hyfryd.  
Ewch yn eich blaen 20 munud ar hyd yr A468 tuag at Gasnewydd a Chyffordd 28 yr M4 ble mae
Tŷ Tredegar: tŷ gwledig godidog o gyfnod Charles II, mewn 90 acer o barciau a gerddi gwefreiddiol.
Mae modd cael taith drwy’r ystafelloedd cyhoeddus ysblennydd a golwg “dan y grisiau" i weld sut oedd y rhai hynny llai ffodus eu byd yn byw. Yn y gerddi mae siopau crefft, ystafell de, teithiau mewn coets, cychod a llwybrau o amgylch y llynnoedd.


O’r Brenhinoedd i’r Gwladwyr yng Nghymru'r Canol Oesoedd

Rhyfeddol yw’r gair gorau i ddisgrifio’r castell mwyaf yn y wlad sydd â'r mwyaf o gestyll yn Ewrop. Yn ffodus, mae Castell Caerffili yn llawer mwy croesawgar nag oedd yn y drydedd ganrif ar ddeg! Yn wir, bryd honno, roedd yr amddiffynfeydd cadarn yn golygu ei bod hi bron yn amhosibl i unrhyw elyn oresgyn y castell. Serch hynny, mae olion sawl brwydr o hyd i'w gweld yn y castell, gan gynnwys arfau peledu o'r canol oesoedd fel bwa croes anferth a oedd â saethau bum troedfedd o hyd!Ewch yn eich blaen i Lynnoedd a Phentref Canoloesol Cosmeston a gweld y gwahaniaeth syfrdanol o ran sut oedd y werin dlawd yn byw yn y cyfnod hwn. Yn wir, gyda chymeriadau mewn gwisgoedd i’ch arwain o amgylch y pentref, mae caledi’r Gymru Ganoloesol yn sicr yn dod yn fyw. Os bydd amser ar ôl, fe allwch chi fynd am dro o amgylch y llynnoedd hyfryd neu fwynhau cinio ysgafn yn y Ganolfan Ymwelwyr sy'n edrych dros y dŵr.