Home > Diwydiant Teithio > Trefnu Teithiau > Teithiau Dau Ddiwrnod
Teithiau Dau Ddiwrnod
Posibiliadau
Cymysgedd o’r Hen a’r Newydd
Y diwrnod cyntaf
Pa ffordd well o archwilio Caerdydd na mynd yn ôl i'r dechreuad. Mae Castell Caerdydd yng nghanol y ddinas yn perthyn i’r cyfnod hwnnw, bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Safle caer Rufeinig oedd y safle hwn yn wreiddiol, ond erbyn heddiw'r gorthwr Normanaidd sy’n denu’r sylw. Bydd y daith dywys yn eich arwain i ystafelloedd neo-Gothig ysblennydd y Castell, a gafodd eu creu ar gyfer Trydydd Ardalydd Bute gan y pensaer unigryw William Burges yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Ar ôl amsugno’r holl hanes, fe allwch chi ddod â’r bore i ben gyda thaith 15 munud allan o’r ddinas (i’r gorllewin ar hyd yr M4, Cyffordd 34 i gyfeiriad Hensol) a mentro i gefn gwlad ac i winllan fwyaf Cymru.Bydd taith dywys o amgylch Gwinllan Llanerch yn eich arwain o amgylch y stâd 20 acer a’r gwindy modern, cyn bydd cyfle i flasu gwinoedd llwyddiannus Cariad ar y diwedd.
Yna treuliwch y prynhawn yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan (10 munud i ffwrdd, Cyffordd 33 o’r M4 i’r A4232). Fe allwch chi fwynhau cinio ysgafn yma cyn crwydro o amgylch un o amgueddfeydd gwerin awyr agored mwyaf Ewrop, sydd wedi’i lleoli mewn 100 acer o gefn gwlad prydferth. Fe ddewch chi o hyd i gartrefi o Gymru drwy’r oesoedd wedi’u hailgodi: o bentref Celtaidd sy’n 2000 oed i fwthyn glöwr o’r 1930au. Mae’r ystafell de Fictoraidd yn lle da i orffwyso rhywfaint ar y coesau blinedig, neu i gael diod gynnes neu oer a chacen gri hyfryd.
Yr ail ddiwrnod
Fe allwch chi fwynhau golygfeydd newyddaf y ddinas. Ewch i Ganolfan Groeso’r 'Tiwb' ym Mae Caerdydd i weld arddangosfa fodern o Gaerdydd fel dinas forwrol, sy’n cynnwys model ar raddfa fawr, cyflwyniad ar sgrîn fideo a golygfeydd panoramig ar draws y Bae a'r morglawdd newydd, sydd wedi creu llyn dŵr croyw 500 acer.
Mae nodweddion eraill yn y Bae yn cynnwys Gwesty a Sba Dewi Sant, gyda’i bensaernïaeth fodern syfrdanol a’r golygfeydd yr un mor syfrdanol dros y Bae. Mae Adeilad y Lanfa, y Senedd newydd a Chanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd hefyd yn adeiladau trawiadol. Yn yr Eglwys Norwyaidd, fe allwch chi gael brecwast hwyr traddodiadol yn y caffi "Konditorei". Neu ewch i Crefft yn y Bae dafliad carreg i ffwrdd ar Stryd Bute, ble mae gwaith crefft o Gymru ac anrhegion diddorol iawn i’w cael. Bydd ymweliad â Techniquest, prif ganolfan darganfod gwyddoniaeth y DU, gyda thros 160 o arddangosfeydd rhyngweithiol, yn rhoi rhywbeth i chi feddwl yn ei gylch! Fe allwch chi hefyd ymweld â datblygiad celfyddydol mwyaf cyffrous Ewrop ar hyn o bryd: Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd tywysydd yn eich arwain o amgylch yr adeilad hynod hwn, sy’n llwyfan rhyngwladol i fale, opera, theatr a dawns ac yn gartref hefyd i saith o gwmnïau celfyddydol gwahanol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Unwaith y byddwch chi wedi symbylu’r meddwl, fe allwch roi maeth i’r corff yn Harry Ramsden's gyda phryd swmpus o bysgod a sglodion. Mae'r bwyty'n gallu darparu ar gyfer grwpiau mawr a chynnig adloniant ysgafn. Nid yw unrhyw ymweliad â Chaerdydd yn gyflawn heb brofi rhywfaint o bleser ei siopau. O’r canolfannau siopa modern, sgleiniog, i’r arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd, heb sôn am holl enwau adnabyddus y stryd fawr, bydd hi'n anodd i unrhyw ymwelydd adael heb wario rhywfaint.


























