Home > Hafan
Croeso i Gaerdydd, y Porth i Gymru!
Dinas yn llawn gwrthgyferbyniadau yw Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae pensaernïaeth arloesol yn sefyll ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, tra bo aceri o barciau heddychlon dafliad carreg o brysurdeb canol y ddinas. Ar ben hynny, mae’r diwylliant Cymreig a’i ddreigiau a’i chwedlau’n cyd-fynd yn berffaith â’r ddinas fodern, llawn technoleg.
Rai munudau o’r castell a’r ddinas, mae dociau Bae Caerdydd ar eu newydd wedd, a’r rheiny’n llawn bwytai a chaffis o bob math. Ben ac ysgwydd uwchben popeth yn y Bae mae Canolfan Mileniwm Cymru, sy'n gartref i saith o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae strydoedd siopa pwrpasol Caerdydd a’u marchnadoedd yn llawn siopau poblogaidd y stryd fawr, ac mae'r arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd sy'n plethu drwy'r ddinas yn gartref i ddwsinau o siopau annibynnol bach lle gellir cael anrhegion unigryw, dillad a bwyd, gyda naws Gymreig i lawer ohonynt.
Rydych chi'n sicr o gael croeso cynnes iawn yn ein dinas.
Mwynhewch eich ymweliad!
Mae’n rhwydd cyrraedd Caerdydd o bob rhan o’r DU, mae’n ddwy awr ar y trên o Lundain ac yn daith fer o Ewrop – ewch i’r adran deithio i lwytho mapiau o ganol y ddinas a manylion am sut i gyrraedd Caerdydd.
Gwneud cais neu lwytho llyfryn Croeso Caerdydd (ar gael yn Saesneg yn unig).
Canolfan Groeso Porth Caerdydd
': +44 (0) 8701 211 258

Trefnu llety ar-lein
Cynigion arbennig
Canolfan Ymwelwyr
Diwrnodau allan a theithiau