Home > Cynadleddau > Rhaglenni Cymdeithasol

Rhaglenni Cymdeithasol

Mae modd i Swyddfa Gynadleddau Caerdydd eich helpu gyda syniadau ar gyfer teithiau a Rhaglenni Cymdeithasol, boed yn dderbyniad dinesig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, yn Wledd Gymreig yng Nghastell Caerdydd neu’n rafftio dŵr gwyn ym Mae Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth siaradwch ag un o’n tîm. Fel arall, mae'r wybodaeth isod yn rhoi blas i chi o'r hyn y gall y ddinas ei chynnig a rhai sylwadau gan ymwelwyr.

 

Dinas Syfrdanol

 

Mae Caerdydd yn ddinas syfrdanol ar lannau’r dŵr, gydag adeiladau a pharciau hyfryd. Bydd pobl sy’n ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf bob amser yn synnu at nifer yr atyniadau. Mae Bae Caerdydd yn ddiweddar wedi’i weddnewid yn ardal hamdden gyffrous. Mae’r bae wedi’i lenwi drwy adeiladu’r morglawdd, a hynny wedi creu llyn dŵr croyw anferth ble gallwch chi fynd ar daith ar gwch a darganfod rhywfaint o hanes, neu efallai roi cynnig ar rywbeth ychydig yn fwy anturus fel taith ar gwch cyflym. Mae'r bae yn gartref i westy 5* pwrpasol cyntaf Syr Rocco Forte, Gwesty a Sba Dewi Sant. Fe allwch chi gamu’n ôl i’ch ieuenctid yn amgueddfa wyddoniaeth Techniquest, aros am goffi yn yr Eglwys Norwyaidd neu fwynhau un o’r bwytai a'r bariau niferus, sy’n cynnig bwydydd o bedwar ban y byd.

Ymlacio

Ar ôl diwrnod hir a phrysur, mae digonedd o ffyrdd i ymlacio, a digonedd hefyd i'w wneud a'i weld. Os byddwch chi neu’ch cynrychiolwyr yn ddigon lwcus i gael rhywfaint o amser yn rhydd gyda’r nos neu yn ystod y dydd, mae rhywbeth at ddant pawb o ran atyniadau ac adloniant, gan gynnwys theatrau, casinos, amgueddfeydd, bwytai, bariau a chlybiau, heb sôn am y siopau wrth gwrs. Cafodd Caerdydd ei phleidleisio’n ddiweddar fel un o’r chwe lleoliad gorau i siopa yn y DU, ac mae gan y ddinas amrywiaeth eang o siopau yn y canolfannau modern a'r arcedau Fictoraidd. Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny o amgylch ardal Heol y Frenhines, sy'n stryd heb draffig ac yn llawn siopau o bob math. Mae Caerdydd yn ddinas gywasgedig a hwylus, y ddinas "15 munud" fel y'i galwyd hi'n ddiweddar, felly lle bynnag ydych chi, fyddwch chi byth yn rhy bell o'ch stop nesaf.

 

I gael rhagor o wybodaeth am bethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghaerdydd, cliciwch yma.

 

Fel arall, am syniadau diddorol, cyngor, manylion trefnwyr teithiau ac atebion i’ch cwestiynau, cysylltwch â ni:
E-bost: conference@cardiffandco.com

Ffôn
: +44 (0) 29 2087 1846
Ffacs: +44 (0) 29 2023 2058

 

  

Sylwadau gan rai o’n hymwelwyr:

 

“Fe allwch chi fwyta mewn bwyty pum seren, ac roedden ni wrth ein boddau gydag Ardal y Caffis yn ogystal."

 

“Mae’r maes awyr rhyngwladol a'r M4

wedi gwneud Caerdydd yn fwy hwylus nag erioed.”

 

“Roedd ein cynrychiolwyr wedi’u syfrdanu gyda phrydferthwch y lleoliad penigamp hwn."

 

“Rwyf bellach yn gwybod o ble daw'r ymadrodd 'siopa di-stop."

 

“Caerdydd yw’r brifddinas fwyaf hamddenol yr arhosais ynddi erioed."

 

“Yn Llundain, roedd ein digwyddiad yn dechrau mynd yn dreuliedig.

Yng Nghaerdydd, rydym wedi cael chwa o awyr iach eto."