Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Cynadleddau > Rhaglen Llysgenhadon

 

 

Rhaglen Llysgenhadon

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Swyddfa Gynadleddau Caerdydd a sefydliadau academaidd, busnes a phroffesiynol lleol. Y nod yw gweithio gyda phartneriaid a allai ddylanwadau’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar benderfyniadau sy’n ymwneud â dewis lleoliadau Cynadleddau.  Ers sefydlu Rhaglen Llysgenhadon Caerdydd yn 2003, mae’r ddinas wedi denu gwerth £2 filiwn o fusnes Cynadleddau ac mae disgwyl i’r ffigwr hwn godi dros y pum mlynedd nesaf.  

Mae Rhaglen Llysgenhadon Caerdydd yn helpu i hyrwyddo’ch adran.  Fel Llysgennad, mae’r manteision i chi’n cynnwys:


Codi proffil eich pwnc o fewn eich prifysgol neu sefydliad
Ehangu eich proffil personol
Cymorth gyda’r wasg a chysylltiadau cyhoeddus
Hyrwyddo prifddinas Caerdydd
Pecyn Cymorth Cynadleddau

Drwy hyrwyddo Caerdydd fel lleoliad i gynhadledd eich cymdeithas, sefydliad neu gorff, gallwn gynnig y pecyn cymorth hwn sy’n ddiduedd ac yn rhad ac am ddim:


   Dewis lleoliad - chwilio am leoliadau posibl sy’n addas i’ch anghenion
Dogfen gais - paratoi a chyflwyniad mewn amryw o fformatau
Gwasanaeth trefnu Llety - ar gyfer anghenion cynrychiolwyr a HQ
Ymweliadau archwilio - ymweliadau gyda ni i leoliadau o amgylch Caerdydd
Cymorth dinesig - cyngor am geisiadau 
Trefnydd cynhadledd proffesiynol (PCO) - fe allwn ni friffio PCO lleol i gyflwyno cynigion a chostau ar gyfer eich anghenion
Teithiau/rhaglenni cymdeithasol - awgrymiadau ar gyfer cynrychiolwyr a gweithgareddau partneriaid
Gwybodaeth i gynrychiolwyr - amryw o lyfrynnau i gynrychiolwyr
Teithio - gwybodaeth am deithio i Gaerdydd mewn car, trên ac awyren
Gwybodaeth a Chymorth Lleol - adloniant, cyflenwyr gweledol/clywedol ac ati.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Cardiff Convention Bureau

E convention@cardiffandco.com

T +44(0)29 2087 1846

F +44(0)29 2023 2058