Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd

 Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd

 

Castell CaerdyddMae Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd yn ffordd wych o archwilio canol y ddinas ar droed, ac i ddarganfod mwy am sut y daeth Caerdydd i fod y ddinas a welwn heddiw.
Mae'r Llwybr yn cynnwys rhai o dirnodau enwocaf a mwyaf hanesyddol Caerdydd, yn ogystal ag ambell i gyfrinach.
3.6 km neu 2.3 milltir o hyd yw'r daith, a gellir ei dilyn â chymorth y cyfeirbwyntiau wedi'u rhifo ar y palmant. Gallech ymuno â'r daith unrhyw le ar hyd y llwybr, gan weld cymaint - neu cyn lleied - ag y dymunwch.
Mae arweinlyfr a map am ddim i gyd-fynd â'r daith ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg neu Almaeneg o Ganolfan Ymwelwyr Caerdydd, neu cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffôn ac fe ddanfonwn ni gopi atoch chi.
 
 
P'run ai ydych wedi byw yng Nghaerdydd gydol eich bywyd, neu'n ymwelydd, rydych yn sicr o ddysgu rhywbeth na wyddech erioed o'r blaen. Mwynhewch eich taith! Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd
 
Cliciwch ymai lwytho map llwybr canmiwyddiant Caerdydd.
 
Am ragor o wybodaeth ac i gael copi o'r llyfryn cliciwch yma neu gysylltwch â:

 

Canolfan Ymwelwyr Caerdydd

Yr Hen Lyfrgell
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1WE