Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Hanes Caerdydd

Hanes Caerdydd

Bu sawl dylanwad amrywiol ar ddiwylliant cyfoethog Caerdydd, o gyfnodau’r Rhufeiniaid a’r Normaniaid i'r chwyldro diwydiannol a’r diwydiant glo – a drodd y dref fechan gynt yn ddinas ffyniannus, ryngwladol.  

Gwreiddiau Rhufeinig

Mae stori Caerdydd yn dechrau yn 55 O.C. pan sefydlodd y Rhufeiniad gaer ar safle Castell Caerdydd bellach. Gellir gweld rhai o’r waliau Rhufeinig gwreiddiol o hyd yng Nghastell Caerdydd, ac awgrymwyd fod enw Caerdydd yn deillio o enw’r Cadfridog Rhufeinig Aulus Didius – gan roi Caer Didi i ni. Daeth y Llychlynwyr a’r Normaniaid i roi eu stamp hwythau ar Gaerdydd, ac yn 1091 dechreuodd Robert Fitzhamon weithio ar orthwr y castell, sydd wedi bod yng nghanol y ddinas fyth ers hynny.

 

Aur Du yn trawsnewid Caerdydd

Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladodd Ail Ardalydd Bute gamlas Morgannwg, gan greu llwybr o Ferthyr Tudful i Gaerdydd a’r dociau er mwyn manteisio ar yr holl lo yn yr ardal. Yn sgîl hyn, daeth Caerdydd yn borthladd allforio glo mwyaf y byd, gan gymell Edward VII i roi statws dinas i Gaerdydd yn 1905. Cyrhaeddodd y porthladd uchafbwynt yn 1913, gyda thros 10 miliwn o lo'n cael ei allforio oddi yno. Wrth i allforion o Gaerdydd gynyddu, cynyddu hefyd wnaeth y boblogaeth. Daeth gweithwyr doc a morwyr o bedwar ban y byd i ymgartrefu mewn cymunedau’n agos i’r dociau, yn ardal Tiger Bay, a hynny o dros 45 o wledydd gwahanol gan gynnwys Norwy, Somalia, Yemen, Sbaen, yr Eidal, y Caribî ac Iwerddon. Dyma a greodd gymeriad amlddiwylliannol unigryw'r ardal.    

 


Dau ben-blwydd

Ar ôl dirywio yn y 1970au a’r 1980au, mae dociau Caerdydd a chanol y ddinas bellach wedi'u hadfywio. Mae Bae Caerdydd bellach yn ddatblygiad ffyniannus ar lannau’r dŵr, ac ar ôl adeiladu Stadiwm y Mileniwm yng nghanol y ddinas yn ddiweddar, mae Caerdydd bellach yn brifddinas Ewropeaidd o'r iawn ryw. Yn 2005, dathlodd Caerdydd ei chanmlwyddiant fel dinas a hanner canrif fel prifddinas Cymru, a chynhaliwyd Digwyddiadau, gwyliau a phartïon drwy'r flwyddyn i ddathlu.

 


Cartref y Dalecs

Yng Nghaerdydd y ganwyd Terry Nation, a greodd y Dalecs, gelynion Doctor Who. Yn 2005 dychwelodd y Dalecs adref mewn cyfres newydd o Doctor Who gan BBC Cymru. Yng Nghaerdydd a’r cylch y ffilmiwyd ail gyfres y Doctor Who newydd yn ogystal, gyda David Tennant a Billie Piper yn serennu. Ac mae cyfres newydd yn deillio o Doctor Who, o’r enw Torchwood, hefyd wedi’i ffilmio a’i lleoli ym mhrifddinas Cymru.

 

Prifddinas Masnach Deg gyntaf y Byd

Ym mis Mawrth 2004, dynodwyd Caerdydd yn Brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd, i gydnabod cefnogaeth y ddinas i'r cynllun. Er mwyn cael y statws hwn, roedd yn rhaid i Gyngor Caerdydd ofalu bod cynnyrch Masnach Deg ar gael mewn nifer o gaffis, siopau ac archfarchnadoedd yng Nghaerdydd, yn ogystal â chynnig te a choffi Masnach Deg yn ffreuturau a chyfarfodydd y cyngor.

 

Gŵyr a gwragedd enwog

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, bu gan Gaerdydd nifer o enwogion o'r ddinas. Ganwyd yr awdur plant, Roald Dahl yng Nghaerdydd yn 1916, ac mae’r Eglwys Norwyaidd ymhle’i bedyddiwyd bellach yn ganolfan gelfyddydol ac yn gaffi. Yn y byd chwaraeon, mae Ryan Giggs, Colin Jackson a’r Fonesig Tanni Grey Thompson yn aml yn y penawdau, tra bo Shirley Bassey a Charlotte Church yn ddwy gantores fyd-enwog o’r ddinas.

 

Capten Scott a Phegwn y De

Yn 1910, hwyliodd y Capten Robert Scott o Gaerdydd yn ei long y ‘Terra Nova’ ar ei daith aflwyddiannus i Begwn y De. Mae cysylltiadau Scott â Chaerdydd yn cynnwys cerflun coffa ym Mae Caerdydd, goleudy coffa ym Mharc y Rhath a’r dafarn Discovery yn Lakeside, ble ceir ffotograffau o’r daith.  Yn gynharach eleni, ail-agorwyd ystafell Capten Scott yn y Royal Hotel, ymhle y cynhaliwyd y cinio ffarwel.

 

Hanes chwaraeon

Bu chwaraeon yn bwysig yng Nghaerdydd ers amser maith. Yn 1958, cynhaliwyd Gemau Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad yn y ddinas, neu Gemau’r Gymanwlad o ddefnyddio’r enw byr. Fodd bynnag, cafodd pwll nofio’r Ymerodraeth ei ddymchwel i wneud lle i Stadiwm y Mileniwm - ymhle y cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999. Gwnaeth y stadiwm enw iddi'i hun eto yn 2005, pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd. Bydd Caerdydd hefyd yn cynnal gêm brawf griced yng Nghyfres y Lludw yn 2009, a gemau pêl-droed yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012.