Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Gwybodaeth Gyffredinol

Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: De Ddwyrain Cymru


Dyddiadau Pwysig: Sefydlu’r gaer Rufeinig gyntaf yn AD55. Gwnaeth y Brenin Edward VII Gaerdydd yn ddinas yn 1905. Daeth yn brifddinas Cymru yn 1955.

Enw Saesneg:
Cardiff


Arian:
Punnoedd Sterling Prydeinig

 

Poblogaeth: 315,000 (ffigwr bras 2004) 10% yn fyfyrwyr

 

Cod Ffon: Cod gwlad: 44, cod ardal: 029

 

Parth amser:GMT (GMT + 1 o ddydd Sul olaf mis Mawrth tan y dydd Sadwrn cyn Sul olaf mis Hydref).


Trydan: 220 folt AC, 50Hz; plygiau tri phin sgwâr safonol.


Tymheredd cyfartalog mis Ionawr: 4.5°C (40°F).


Tymheredd cyfartalog mis Gorffennaf: 16°C (61°F).

 

Ieithoedd: Saesneg a Chymraeg


Cildwrn: Yr arfer yw rhoi cildwrn o 10% mewn bwytai.  Talu i’r ffigwr agosaf mewn tacsis. Mae rhoi cildwrn mewn bariau’n anarferol.

 
O fan i fan: Mae Caerdydd yn ddinas gywasgedig iawn ac mae’n rhwydd iawn cerdded o fan i fan. 
Mae’r gwasanaeth ‘BayCar’ yn rhedeg rhwng canol y ddinas a
Bae Caerdydd bob 10 munud yn ystod y dydd, a bws dŵr yn rhedeg o Stadiwm y Mileniwm i Fae Caerdydd. Gellir dal tacsis sydd â phedalau o sawl pwynt o amgylch y ddinas, a gall y rhain gludo dau deithiwr am ddim o amgylch canol y ddinas.

O’r Maes Awyr: Mae’r Airbus Xpress (C91) i Orsaf Ganolog Caerdydd yn rhedeg bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 05.20 a 23.35 a bob awr ar ddydd Sadwrn (bob dwy awr ar ddydd Sul). Y prisiau i oedolion yw £3 (tocyn sengl) a £5 (tocyn dychwelyd)  Mae trenau yn rhedeg bob awr o Orsaf Ryngwladol Caerdydd yn y Rhŵs i Orsaf Ganolog Caerdydd. Mae tacsis yn costio £15-£20.

 

Cyrraedd Yma: Mae awyrennau gan gynnwys bmibaby, Aer Arran, Air Southwest, KLM ac Eastern Airlines yn hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd o sawl lleoliad drwy Ewrop.  Mae Zoom Airlines yn hedfan o Toronto a Vancouver i Gaerdydd.  Mae’r M4 yn cysylltu Caerdydd â Llundain a gweddill y DU. Mae trenau rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a Chaerdydd yn rhedeg yn rheolaidd gyda'r daith yn para tua dwy awr.

Siopa: Mae’r rhan fwyaf o siopau ar agor rhwng 9am a 5pm gyda siopa’n hwyr y nos bob nos Iau.  Mae siopau ar agor rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sul.