Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Gefeilldrefi

Gefeilldrefi

 

Fflag NantesNantes

Mae gan Nantes yr un gwreiddiau Celtaidd â Chaerdydd, ac mae’n rhannu’r un dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Gefeilliodd y ddwy ddinas yn ôl yn 1963, a dros y degawd diwethaf mae Nantes a Chaerdydd wedi datblygu’n lleoliadau o bwys i ymwelwyr yn eu gwledydd eu hunain.Mae Castell Caerdydd yng nghanol prifddinas Cymru, a’r Chateau des Ducs yn Nantes.  Yng Nghaerdydd, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn denu cwmnïau opera a sioeau theatr cerddorol. Mae’r Cité des Congrès yn Nantes hefyd yn cynnal rhai o sioeau artistig gorau Ewrop. Mae Stadiwm y Mileniwm yn gefndir amlwg i ddinas Caerdydd, ac yn Nantes mae’r Stade de la Beaujoire yr un mor drawiadol. Mae'r ddwy ddinas wedi dangos dychymyg mawr wrth adfywio hen ardaloedd dociau (Bae Caerdydd a Saint Nazaire) a’r ddwy wedi cynnal Digwyddiadau mawr.
 


Fflag StuttgartStuttgart

Gefeilliodd Caerdydd a Stuggart yn 1955. Stuttgart yw prifddinas ardal Baden-Wurttemberg yn ne-orllewin yr Almaen, gyda phoblogaeth o 588,617 a hynny yng nghanol un o ranbarthau diwydiannol mawr y wlad. Mae Stuttgart yn enwog am gynhyrchu ceir fel Mercedes a Porsche. Fel yng Nghaerdydd, gall y bobl leol ac ymwelwyr fwynhau trysorau pensaernïol ac ymweld ag amgueddfeydd fel yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Stuttgart neu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r ddwy ddinas yn adnabyddus fel canolfannau i chwaraeon a diwylliant, gydag amryw o ddigwyddiadau blynyddol fel y Mardi Gras i ddathlu bywyd hoyw a lesbaidd yng Nghaerdydd a Diwrnod Christopher Street yn yr Almaen.


 

Fflag Sir HordalandSir Hordaland

Bu Caerdydd a Sir Hordaland yn Norwy yn efeilldrefi ers 1996. Poblogaeth yr ardal yw 422,000, a’r brif dref yw tref hanesyddol Bergen (221,000), ail ddinas fwyaf Norwy. Mae gan Bergen dirwedd anhygoel, ac mae’n denu nifer o ymwelwyr sydd am ymlacio ar eu gwyliau. At hynny, y ddinas yw pencadlys morwrol Norwy, sydd â hanes hir iawn yn y diwydiant pysgod ac amaethyddiaeth. Eu porthladdoedd fu’n gyfrifol am lwyddiant y ddwy ddinas, gyda glo’n ganolbwynt i economi Caerdydd a physgota'r un mor bwysig i Sir Hordaland. Mae Amgueddfa Werin Sain Ffagan ac Acwariwm Brugen yn cofnodi hanes y ddwy ddinas. 
 

Xiamen

Gefeilliodd Caerdydd ac Xiamen yn 1983, y tro cyntaf i dref o’r Deyrnas Unedig ymrwymo i bartneriaeth o’r fath gyda Tsieina. Mae Xiamen yn sefyll ar arfordir de ddwyrain Tsieina, ac yn lleoliad poblogaidd i ymwelwyr. Yr enw arall ar y ddinas yw'r "Ardd ar y môr". Mae wedi’i lleoli yn un o bum Ardal Economaidd Arbennig Tsieina, gydag arwynebedd o 1,516 cilomedr sgwâr a phoblogaeth o 1.31 miliwn.  Nod y bartneriaeth yw dysgu mwy am ddiwylliant arall, dysgu sut mae eu cymdeithas yn byw a dangos bod ein trigolion yn gosmopolitaidd ac yn agored eu hagwedd.
 


Fflag LuganskLugansk

Mae cysylltiad Caerdydd gyda Lugansk yn dyddio’n ôl i 1959. Mae Lugansk yn ganolbwynt pwysig i’r rheilffyrdd a’r ffyrdd, ar ffin ddwyreiniol yr Wcrain ac ar lethrau gogleddol mynyddoedd y Donetsk. Mae gan y ddinas boblogaeth o 522,000 ac arwynebedd o 28,610 hectar. Mae Lugansk yn agos i hen faes glo Donetsk, ac yng nghanol adfywiad economaidd wrth geisio dod o hyd i fywyd ar ôl glo - proses y mae Caerdydd wedi bod trwyddi yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.