Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Canolfan Groeso
Yma i helpu!
Bydd ein staff amlieithog a gwybodus yn eich cynorthwyo i wneud y mwyaf o'ch ymweliad â Chaerdydd. Fe allan nhw eich helpu i gynllunio'ch ymweliad gan roi syniadau i chi o'r llefydd i’w gweld, beth i’w wneud, sut i gyrraedd yno a ble i aros.
Mae’r Ganolfan Groeso hefyd yn gwerthu Cerdyn Gostyngiadau Caerdydd a'r Rhanbarth Dinesig, llyfrau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, tocynnau rheilffordd a bws, tocynnau theatr a mapiau o’r ddinas. Mae modd llogi ceir, cael rhestr o ddigwyddiadau’r ddinas a defnyddio’r gwasanaeth gadael bagiau yn ogystal.
Cliciwch yma os hoffech chi wneud cais am gyhoeddiadau am Gaerdydd, neu i lwytho’n Canllaw i Ardal Caerdydd. Croeso hefyd i chi gysylltu â’n canolfan alw (+44(0)870 1211 258, ymwelydd@caerdydd.gov.uk) gyda’ch ymholiadau. Yn ystod eich ymweliad, croeso hefyd i chi ymweld â Chanolfan Groeso Porth Caerdydd yng nghanol y ddinas neu'r Ganolfan Groeso ym Mae Caerdydd.
Canolfan Groeso Porth Caerdydd
Bydd ein staff yn barod i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych naill ai cyn neu yn ystod eich ymweliad.
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos:
Dydd Llun i ddydd Sadwrn 09:30 - 18:00
Dydd Sul 10:00 - 16:00
Yn ystod Gorffennaf ac Awst:
Dydd Llun i ddydd Sadwrn 09:30 - 19:00
Dydd Sul 10:00 - 16:00
Dydd Sul 10:00 - 16:00
Manylion cysylltu
Cyfeiriad: Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd. Ffôn:+44 (0) 870 1211 258
Email: ymwelydd@caerdydd.gov.uk
Canolfan Groeso Bae Caerdydd
Yr enw lleol ar y ganolfan hon yw'r 'Tiwb', ac mae yma olygfeydd panoramig ar draws y Bae yn ogystal â gwybodaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd a model manwl ar raddfa fechan o’r ddinas.
09.30 - 18.00
Dydd Sul a Gwyliau Banc: 10.00 - 18.00
Manylion cysylltu
Cyfeiriad: Bae Caerdydd (ger yr Eglwys Norwyaidd)
Ffôn: +44 (0) 29 2046 3833
E-bost: visitorcentrecardiffbay@cardiff.gov.uk













