Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Canllaw i’r Anabl

Canllaw am Fynediad i’r Anabl

I gael gwybodaeth fanwl am fynediad i siopau, gwestai a bwytai yng Nghaerdydd, llwythwch ein Canllaw am Fynediad i'r Anabl (dogfen Word 604 kb, ar gael yn Saesneg yn unig).
 
Mae’r canllaw’n nodi pa leoliadau, atyniadau a bwytai sydd â mynediad rhwydd i'r adeiladau, arwyddion a chyfarwyddiadau clir, a chyfleusterau sy’n cynorthwyo yn hytrach na rhwystro. Mae’n syniad i ymwelwyr gysylltu â’r lleoliadau cyn ymweld i gadarnhau pa gyfleusterau sydd ar gael, gan na fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw fanylion anghywir.  
Mae’r wybodaeth hon wedi’i thynnu o www.disabledgo.info, sy’n cael ei noddi’n genedlaethol gan Marks and Spencer ac yn cael cymorth yn lleol gan Gyngor Caerdydd. Mae Disabledgo yn parhau i gynyddu nifer y lleoliadau sydd ar eu safle, gyda’r nod o gael gwybodaeth am y DU gyfan a galluogi pobl i fwynhau eu cymuned leol ac ymweld â threfi a dinasoedd eraill.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am Gaerdydd neu am ein Gwasanaethau, cysylltwch â ni:


Canolfan Ymwelwyr Caerdydd

Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd
Ff +44 (0) 870 1211 258
E: visitor@cardiff.gov.uk
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos:
Dydd Llun i ddydd Sadwrn 09.30 - 18:00
Dydd Sul 10:00-16.00