Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Caerdydd Wyrdd
Caerdydd Wyrdd
Mae gan Gaerdydd fwy o fannau trefol gwyrdd nag unrhyw ddinas arall yn y DU; Caerdydd hefyd oedd prifddinas Masnach Deg gyntaf y byd, ac mae gan y ddinas un o'r adeiladau mwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd ym Mhrydain. Dyma’n canllaw ni i ‘Gaerdydd wyrdd’.
Parc Bute
Ewch am dro drwy’r gerddi coed neu’r gerddi addurniadol ym Mharc Bute, a buan yr anghofiwch nad yw canol y ddinas ond ddwy funud i ffwrdd. Roedd y parc ar un adeg yn rhan o dir y castell, ond fe’i rhoddwyd i bobl Caerdydd gan Ardalydd Bute. Mae Afon Taf yn llifo drwy’r parc, felly cadwch olwg am fywyd gwyllt gan gynnwys crehyrod, hwyaid gwyllt, brithyllod ac eogiaid ar hyd llwybr Taith y Taf.
Gwarchodfa Gwlypdiroedd Bae Caerdydd
Cerddwch ar hyd y llwybr pren drwy’r warchodfa gwlypdiroedd i weld rhydwyr ac adar dŵr fel crehyrod, cotieir a mulfrain. Mae’r ardal hon o fflatiau llaid a gwely cyrs, sydd wedi’u diogelu, yn sefyll rhwng Gwesty Dewi Sant a cheg afon Taf.
Ynys Echni
Bum milltir o Gaerdydd, yng nghanol Sianel Bryste, mae Ynys Echni – Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ynys yn gartref i boblogaeth fawr o wylanod a mathau eraill o fywyd gwyllt gan gynnwys nadroedd defaid a hwyaid yr eithin. Gall ymwelwyr ymuno ar deithiau dydd i’r ynys yn ystod yr haf, neu aros ar Ynys Echni fel rhan o gwrs celf, ffotograffiaeth neu fywyd gwyllt preswyl.
Taith y Taf
Mae llwybr Taith y Taf yn dechrau ym Mae Caerdydd ac yn dilyn Afon Taf drwy gymoedd y de a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am 55 milltir, cyn dod i ben yn nhref farchnad Aberhonddu. Gellir mynd ar daith feic neu daith gerdded ar hyd rhannau llai o'r llwybr, ac yn ystod yr haf gall ‘Bws Beic y Bannau’ (www.breconbeacons.org) fynd â chi a’ch beic o Gaerdydd i Aberhonddu. Mae modd llogi beiciau o Barc Carafannau Caerdydd yng Nghaeau Pontcanna (02920 398362) www.tafftrail.org.uk
Prifddinas Masnach Deg
Ym mis Mawrth 2004 dynodwyd Caerdydd yn Brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd, i gydnabod cefnogaeth y ddinas i’r cynllun. Gellir bellach ddod o hyd i gynnyrch masnach deg yn y rhan fwyaf o gaffis y ddinas yn ogystal â mewn nifer o siopau a bwytai. Ewch i Ozone yn Heol Siarl, i Muldoons yn ardal yr Hen Fragdy, neu i’r Plans yn Arcêd Morgan i flasu bwyd a diod organaidd a Masnach Deg. I brynu anrhegion Masnach Deg, ewch i'r Shared Earth yn yr Arcêd Brenhinol, ac am y ffasiwn Masnach Deg ac organig diweddaraf, ewch i siop Oyster yn Arcsiop Oyster yn Arcêd y Castell.
Y Senedd
Agorodd siambr drafod newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Mawrth 2006. Yr adeilad yw un o’r adeiladau mwyaf gwyrdd yn y wlad, gyda nodweddion sy’n cynnwys cwfl gwynt a hwnnw’n rhoi system awyru naturiol drwy dynnu aer poeth o’r adeilad. Mae yno hefyd system sy’n cyfnewid gwres â’r ddaear ac yn defnyddio egni geothermol i gynhesu ac oeri’r adeilad, a system sy’n defnyddio dŵr glaw i lanhau’r toiledau a golchi’r ffenestri. Gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch yr adeilad a gweld y Cynulliad yn trafod o’r siambr gyhoeddus. Mae gan gaffi’r Senedd ddiodydd a byrbrydau Masnach Deg yn ogystal.
Marchnad y Ffermwyr
Ewch i Farchnad Fwyd Go Iawn Glan-yr-Afon bob wythnos i brynu bwyd a chynnyrch Masnach Deg, organig a lleol. Mae hon yn cael ei chynnal ar arglawdd y Taf gyferbyn â Stadiwm y Mileniwm bob dydd Sul rhwng 10am a 2pm. Fel arall, mae Marchnad Ffermwyr Bro Morgannwg yn cael ei chynnal yn nhir Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar ail ddydd Sul bob mis rhwng 10am ac 1pm.
Y Safon Draig Werdd
Mae’r cynllun Draig Werdd yn fodd o ddod o hyd i atyniadau a Llety sy’n llesol i’r amgylchedd yng Nghymru – ewch i www.greendragonems.com. Dim ond busnesau sy’n llesol i’r amgylchedd sy’n cael eu hardystio. Mae’r sefydliadau Draig Werdd yng Nghaerdydd yn cynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bws Caerdydd, a Gwesty Jolyon’s ym Mae Caerdydd.

Trefnu llety ar-lein
Cynigion arbennig
Canolfan Ymwelwyr
Diwrnodau allan a theithiau