Home > Doctor Who
Caerdydd Cartref Doctor Who
Mae mapiau ar gael yn nodi lleoliadau’r Atyniadau yng Nghaerdydd sydd hefyd yn "lleoliadau" ar gyfer "Doctor Who" a "Torchwood". Gallwch gyfuno ymweliad ag arddangosfa "Doctor Who" ym "Mae Caerdydd" efo taith o amgylch y lleoliadau hynny.Mae’r gyfres newydd sydd gyda Catherine Tate a Donna Noble, y briodferch sy’n rhedeg i ffwrdd yn y drydydd gyfres ac sydd erbyn hyn yn gymar i’r Doctor, wrth iddynt deithio trwy amser a’r gofod.
Mae’r gyfres “Doctor Who” a’r rhaglenni cysylltiedig, “Torchwood” a “The Adventures of Sarah Jane”, yn cael eu ffilmio ar leoliad yng Nghaerdydd, ac yn gwneud defnydd o leoliadau megis Stadiwm y Mileniwm, Canolfan Siopa y Frenhines a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Caerdydd hefyd yn gartref i’r arddangosfa “Doctor Who” yng nghanolfan y Ddraig Goch. Cewch yno weld Cyberman, Dalek, anghenfil, gwisgoedd a chelfi o’r gyfres newydd. Mae map lleoliadau “Doctor Who” ar gael yn yr arddangosfa, a hefyd yng nghanolfan ymwelwyr Caerdydd. Mae’r gwesty Park Plazza yng nghanol y ddinas yn cynnig gwyliau “Doctor Who” i ddilynwyr y sioe sy’n cynnwys Dalek go iawn!
Am fwy o wybodaeth am “Doctor Who” ewch i bbc.co.uk/doctorwho.
Am fwy o wybodaeth ar y lleoliadau a ddefnyddiwyd ewch i bbc.co.uk/wales
Torchwood
"When you see Cardiff on film, it looks like LA - it looks amazing. I think a lot of people are going to want to come here, not just because of Torchwood but because it's such a great place - it's buzzing every single day and it's beautiful." - John Barrowman (Captain Jack)Bae Caerdydd yw cartref y gangen Gymraeg o Torchwood - uned elitaidd sydd yn defnyddio technoleg estronol i ddatrys troseddau dynol ac estronol. Mae’r tîm ymgyrchoedd arbennig, dan arweinyddiaeth Capten Jack Harkness yn seiliedig yn yr ‘Hub’ – Canolfan ymgyrchoedd technolegol, sydd wedi’i chuddio o dan Ganolfan y Mileniwm yn y bae – sydd hefyd yn ganolfan i’r ‘Rift’, toriad yn ffabrig y gofod sydd wedi creu cynnydd yn y nifer o weithgareddau estronol yn y ddinas.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn adeilad sy’n gweddu i’r dyfodol ac adeiladau megis y fflatiau Altolusso coeth, a bariau a chlybiau Caerdydd i gyd wedi cael eu cynrychioli ar Torchwood. Ewch i chwilio ein mapiau o leoliadau Torchwood er mwyn dysgu mwy am leoliadau ffilmio Torchwood.
Mae sôn bod trydedd gyfres o’r ddrama ffug-wyddonol yn debygol yn y dyfodol agos. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau aelodau Torchwood ewch i www.bbc.co.uk/torchwood.
Mae sôn bod trydedd gyfres o’r ddrama ffug-wyddonol yn debygol yn y dyfodol agos. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau aelodau Torchwood ewch i www.bbc.co.uk/torchwood.












