Home > Diwydiant Teithio > Trefnwyr Mordeithiau

Trefnwyr mordeithiau

Gwybodaeth am Borthladd Caerdydd

Mae angorfa Doc y Rhath gyferbyn â mynedfa'r sianel o Ddoc y Frenhines Alexandra, ac mae lle i longau hyd at 198 metr* o hyd. Gall angorfeydd Doc y Frenhines Alexandra, sef Angorfa'r West End Cross ac Angorfa Rhif 1, ddal llongau hyd at 170m a 240m o hyd yn y drefn honno.  Mae gan y safle dderbynfa, toiledau, a lle i geir/bysus/tacsis barcio.      
 
Gwybodaeth am Angorfeydd Doc y Frenhines Alexandra / Doc y Rhath (ABP)
Hyd  - 240 metr* (maint y loc 259 m)
Lled - 26 metr* (maint y loc 27.4 m)
Tynfa - 9 metr*
Amrediad Llanw – Lefel yr angorfa’n amrywio o 0.5 metr [uchafswm]

I lwytho map o borthladd Caerdydd, cliciwch ar y llun ar y chwith (60 kb, gif)

Rhaid rhoi lwfans o 1 metr o leiaf o gêl oddi tanodd wrth gyfrifo adegau llanw addas.

*Gellir derbyn llongau mwy os yw Meistr y Doc a'r Harbwr yn cytuno.

 

Pellteroedd
Maes awyr agosaf: Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd - 16 cilomedr
Gorsaf drenau agosaf: Gorsaf Ganolog Caerdydd – 1.5 cilomedr

Pellter i Ganol Dinas Caerdydd – 1.5 cilomedr

 

Diogelwch
Mae Porthladd Caerdydd a’r cyfleusterau i Fordeithiau yn cydymffurfio’n llwyr ag ISPS ac wedi'i gymeradwyo gan Transec ar gyfer mordeithiau.

Mae’r angorfa wedi'i ffensio mewn ffordd sydd wedi'i chymeradwyo gan Transec, gyda'r gallu i godi ffensio ychwanegol pe bai angen.

 

Gwasanaethau a Chyfleusterau’r Porthladd
Mae pabell fawr ar y cei, gyda staff i roi gwybodaeth i ymwelwyr a deunydd am Atyniadau, siopau a golygfeydd y ddinas a’r ardal.  Mae siop sy'n gwerthu cynnyrch i Gymru a Chaerdydd hefyd yno. Chwaraeir cerddoriaeth Gymreig i groesawu’r teithwyr i’r babell, ar ôl i'r llong angori.
  Mae gwasanaeth bws gwennol am ddim i ganol y ddinas yn rheolaidd.
Mae llefydd parcio i fysus ar y cei, er mwyn codi teithwyr.

 

Manylion Cyswllt y Porthladd 

Chris Green                                               
Sales and Marketing Manager, ABP South Wales Ports
Queen Alexandra House
Cardiff
CF10 4LY
Tel: 0870 6096 699
Fax: 029 2083 5001
Email:  
cgreen@abports.co.uk
www.abports.co.uk  
 
Captain Philip Holliday                                              
Marine Manager, ABP South Wales Ports
Queen Alexandra House
Cardiff
CF10 4LY
Tel: 0870 6096 699
Fax: 029 2083 5001
Email:
pholliday@abports.co.uk
www.abports.co.uk