Home > Diwydiant Teithio > Parcio i Fysus

Parcio i Fysus

Yn 2005, cafodd 24 o fannau parcio newydd i fysus eu creu o amgylch y ddinas. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ailddatblygu maes parcio Gerddi Sophia (yn agos i ganol y ddinas), sydd â lle i 10 o fysus ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau’n cynnwys man parcio diogel gyda chyfleusterau i yrwyr a stop dŵr newydd i dacsis, a fydd yn darparu cyswllt trafnidiaeth uniongyrchol o ganol y ddinas i Fae Caerdydd.

 

Coach parking map 2008Mae hefyd fannau gollwng a chodi i fysus yn agos at y rhan fwyaf o Atyniadau canol y ddinas, gyda pharcio am gyfnodau hwy i'w gael yn agos at y canol.

 

Maes parcio bysus Canol y Ddinas – Gerddi Sophia, 10 man parcio cyfnod hir, £15 y diwrnod. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: +44 (0) 29 20 445 900.

 

Cliciwch yma i weld map a chanllaw i barcio bysus (pdf, 2494 kb), gyda’r llefydd gollwng/codi a lleoliad y mannau parcio cyfnod hir.

 

Os hoffech chi gael copi papur o’r canllaw i barcio bysus, anfonwch e-bost i travel@cardiff.gov.uk neu ffoniwch: +44 (0) 29 2087 3252.

 

Fel arall, ysgrifennwch i:

Rheoli Traffig
Ystafell 301 Neuadd y Sir
Glanfa Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ffôn: +44 (0) 029 2087 3256 

www.caerdydd.gov.uk