Home > Diwydiant Teithio > Llety

Llety

Mae Caerdydd yn cynnig Llety o bob math i ymwelwyr – o westai moethus i westai bach a gwely a brecwast. Mae nifer o westai yng nghanol y dref ei hun, dwsinau’n rhagor yn agos i’r canol ac ar y cyrion, tra bo gwestai gwledig ysblennydd yn yr ardal amgylchynol o gefn gwlad, ac eto’n gyfleus o agos i'r ddinas ac i Atyniadau eraill y De.  Ar waelod y dudalen hon mae enwau rhai o'r gwestai sy'n gweithio gyda'r Diwydiant Teithio. Os hoffech chi weld rhestr lawn o'r Llety sydd ar gael, cliciwch ar y botwm 'Rhestr o Westai' ar y chwith.


Mae prif westai’r ddinas yn amrywio mewn steil – o rai Fictoraidd i westai modern i'r unfed ganrif ar ddeg - ond mae bob un yn cynnig llety en-suite rhagorol a bwytai o'r radd flaenaf. Mae gan rai gyfleusterau chwaraeon a phyllau nofio, ac mae’r mwyafrif yn cynnig cyfleusterau busnes a chynadledda. Mae teithiau bargen yn gynyddol boblogaidd, ac mae prisiau gwestai ar y cyfan lawer yn is nag yn y rhan fwyaf o ddinasoedd, sy’n cyfrannu at enw da rhyngwladol Caerdydd am roi ‘gwerth am arian’.


Mae'r holl westai sydd wedi'u cynnwys ar y rhestr hon wedi'u harchwilio a'u graddio gan Croeso Cymru - cynlluniau Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru yw'ch pasport chi i safonau uchel i’ch cleientiaid. Mae’r gwahanol gynlluniau yn helpu i ddod o hyd i lety sy'n addas ar eich cyfer chi.
Ac fe allwch chi hefyd drefnu llety’n llawn hyder, gan fod ymgynghorwyr ansawdd Croeso Cymru yn ymweld â phob gwesty'n rheolaidd i sicrhau bod y safonau'n cael eu cynnal.

 

Mae dod o hyd i’r llety cywir am y pris cywir i grwpiau busnes neu hamdden yn haws i drefnwyr gyda gwasanaeth ‘siop-un-stop’ effeithlon a chyfeillgar adran Marchnata Lleoliad Caerdydd. Chwiliwch drwy’r rhestr isod o westai sy’n gweithio gyda’r Diwydiant Teithio, ffoniwch ni ar +44 (0) 29 2087 1739 neu anfonwch e-bost i marketing@cardiffandco.com

  

Y gwestai sy'n gweithio gyda'r diwydiant teithio:

 

Gwesty Hilton  *****
Andrea Price (Sales Director)
A Kingsway, Cardiff,  CF10 3HH
T +44 (0) 29 2064 6300
andrea.price@hilton.com
W www.hilton.co.uk/cardiff
Details: Canol y ddinas, cyfoes, clwb iechud, taloedd yn cynnwys clwb iechud 
 
Gwesty Angel  ****
Karen Baker (Group Sales )
A Castle Street, Cardiff  CF10 1SZ
T +44 (0) 29 2064 9200
T Direct +44 (0) 29 2064 9206
E angelreservations@paramount-hotels.co.uk
W www.paramount-hotels.co.uk
Details: Gwesty hên, lleoliad yng nghanol y ddinas, parcio bws am ddim, brecwast Cymreig, ystafelloedd wedi eu adnewydd 
 
Gwesty Copthorne ****
Jenny Ashton (Sales Manager)
A Copthorne Way, Culverhouse Cross, Cardiff  CF5 6DH
T +44 (0) 29 2059 9100
E jenny.ashton@mill-cop.com
W www.millenniumhotels.com 
Details: Tu allan y ddinas, clwb iechud, Parcio i Fysus,  taloedd yn cynnwys clwb iechud 
Gwesty Marriott ****
Rebecca Furnell (Sales Manager)
A Mill Lane, Cardiff CF10 1EZ
T +44 (0) 29 20785838
E Rebecca.furnell@marriotthotels.co.uk
W www.marriotthotels.com/cwldt
Details: Canol y ddinas,  clwb iechud, yn fodern, taloedd yn cynnwys clwb iechud 

Gwesty Thistle Caerdydd  ****
Phil Roberts (General Manager )
A Park Place, Cardiff ,  CF10 3UD
T +44 (0) 29 2078 5594
E phil.roberts@thistle.co.uk
W www.thistlehotels.com
Details: Canol y ddinas, gwesty hên traddodiadol, yn agos i parcio bysus
 
Vale Hotel Golf & Spa Resort ****
Miss Michelle Furse (Reservations Manager)
A Hensol Park, Hensol, Vale of Glamorgan CF72 8JY
T +44 (0) 1443 667817
E mfurse@vale-hotel.com
W www.vale-hotel.com
Details:Tu-allan i'r ddinas, golff a spâ, parcio i fysus, taloedd yn cynnwys clwb iechud 
 
Gwesty Park Inn***
Clare Hughes (Revenue Manager)
A Circle Way East, Llanedeyrn, Cardiff  CF23 9XF
T +44 (0) 29 2058 9988
E clare.hughes@parkinn.com
W www.cardiff.parkinn.co.uk
Details: Tu-allan i'r ddinas/ar bwys yr M4, clwb iechud, Parcio i Fysus, taloedd yn cynnwys clwb iechud 
 
Gwesty Royal  **
Alison Corlett (Sales & Marketing Manager)
A 10 St Mary Street, Cardiff CF10 5DW
T + 44 (0) 870 1610 807
E
sales@theroyalhotelcardiff.com
W www.nichehotels.com
Details: Canol y ddinas, gwesty newydd, agorodd 13 Awst 2005,
 
Prifysgol Caerdydd
Samantha Emmots
A Southgate House, PO Box 533, Cardiff, CF14 3XZ
T +44 (0) 29 2087 5117
E emmotts@cardiff.ac.uk
W www.cardiff.ac.uk
Details: Canol y ddinas, parcio, gwahanol fath o lety ar gael