Home > Diwydiant Teithio > Gwasanaethau i’r Diwydiant Teithio

Gwasanaethau i’r Diwydiant Teithio

Gwasanaethau Cymorth

Mae’r dudalen hon yn rhoi rhestr o sefydliadau sydd â’r arbenigedd a’r wybodaeth leol i’ch cynorthwyo gyda’ch trefniadau teithio a llety.

 

Côr Meibion Caerdydd
Sefydlwyd Côr Meibion Caerdydd yn 1898 ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth ac yn perfformio’n rheolaidd drwy Gymru gyfan. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o emynau Negroaidd, operâu, pop modern ac emynau Cymreig enwog. Mae’r côr yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw beth o slot cabaret 20 munud i gyngerdd llawn.
FF +44 (0) 29 2079 0905  

 

Ysgol Iaith Celt
Mae hon yn ysgol iaith achrededig y Cyngor Prydeinig sy’n cynnwys amryw o gyrsiau iaith Saesneg gydol y flwyddyn, er enghraifft “Saesneg Cyffredinol”, “Saesneg Busnes”, “Cwrs Iaith Gwyliau” ac “un-i-un".
FF +44 (0) 29 20 452 800

www.celt.co.uk


Bach Travel
Yn arbenigo mewn teithiau sydd wedi’u trefnu’n arbennig ar gyfer grwpiau bach o hyd at wyth person – unrhyw beth o hanner diwrnod hyd at nifer o ddiwrnodau. Caiff y teithiau ar gyfer pob grŵp eu cynllunio’n unigol er mwyn gweddu i ddiddordebau ac anghenion penodol. Bydd tywysydd yn gyrru pob grŵp, mewn cerbyd wedi’i awyru.
FF +44 (0) 1495 785 169

E enquiries@bachtravel.com

G www.bachtravel.com

  

Charabanc Travel
Popeth o fewn un gwasanaeth. Cynllunio a rheoli’r lleoliadau a’r teithio, diwylliant a hanes, Gwasanaethau tywys, gwestai a bysus.  
Cyswllt: Mike Jones WHB

FF +44 (0) 29 2089 1563

 

Discover Travel & Tours

Un o brif ddarparwyr cynnyrch a Gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr. Ewch ar daith Archwilio Lloegr a Chymru (8 diwrnod/7 diwrnod), sy’n cynnwys llogi ceir, Llety mewn gwestai 3/4 seren, brecwast a chinio nos, teithiau o amgylch y ddinas a mwy.

FF +44 (0) 870 290 1010

www.discovertravelandtours.com

  

Dragon Tours
Teithiau o amgylch Cymru gyda thywysydd proffesiynol. Teithiau wedi’u cynllunio’n unigol ar gyfer unrhyw ofynion a chyllidebau.
Cyswllt: Dr. Mike Davies

FF + 44 (0) 1874 658 124

www.dragon-tours.com/

 

Griffin Guiding “Tales From Wales"

Y dewis gorau ar gyfer teithiau llawn adloniant ond diddorol ar gyfer unigolion a grwpiau. Fe ellir darparu trafnidiaeth ar eich cyfer neu drefnu eich trafnidiaeth eich hun. Darperir gwasanaeth Cynadleddau a rhaglenni trafnidiaeth, yn ogystal â Gwasanaethau Cyfarfod a Chyfarch. Wedi’u lleoli ger y brifddinas – teithiau o amgylch Caerdydd a’r Bae* (*ar ddŵr neu dir) a chefn gwlad cyfagos De Cymru
Cyswllt: Steve Griffin

FF +44 (0) 1443 217 204

G www.griffinguiding.co.uk

 

Geoff Cooke's Trains & Treasures
Mae teithiau Geoff Cooke's Trains & Treasures yn cyfuno rheilffyrdd stêm bendigedig Cymru gydag ymweliadau i gestyll, plastai, gerddi, parciau cenedlaethol a safleoedd treftadaeth eraill. Mae’r teithiau’n rhoi profiad amrywiol o ansawdd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes, treftadaeth a'r hwyl o deithio ar drên.
Cyswllt: Geoff Cooke

FF +44 (0)1938 556198

E geofftrains@aol.com

G www.geoffs-trains.com

Hillscape Walking Holidays
Teithiau cerdded yng nghanolbarth Cymru, o westy croesawgar 3 seren.
Dewis o 40 taith y diwrnod, rhwng 7-16 milltir. Ieithoedd a siaredir: Saesneg
Cyswllt: Anne neu Richard Wilson

FF +44 (0) 1974 282640

www.wales-walking.co.uk

Pendragon Tours

Teithiau o amgylch Cymru mewn grwpiau bach o 1, 2 neu 3 cwpl. Sylw personol mawr gydag ansawdd uchel o ofal a Llety. Teithiau wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer anghenion unigol cleientiaid.
Cyswllt: Peter Budgen a Lucy Antoni

FF/FFACS +44 (0) 1446 760 534

www.pendragon-wales.co.uk

Pinnacle Chauffeur Transport Caerdydd

Rydym yn cynnig trafnidiaeth dosbarth cyntaf yn ein cerbydau Chrysler Grand Voyagers, gyda gyrrwr proffesiynol wrth y llyw. Mae gan bob cerbyd beiriant llywio â lloeren, adloniant DVD/CD, rheoli hinsawdd dwbl, blwch oeri, seddi lledr ac ati.  Fe ellir ein harchebu ar gyfer teithio i feysydd awyr/porthladdoedd ac i’ch gwesty, neu am y diwrnod ar gyfer teithiau pellach. Sylw personol wedi’i warantu.
Cyswllt: Greg Jones

FF +44 (0) 870 752 3383

G www.wedriveyou.co.uk

South Wales Personal Tours LLP
Teithiau dydd o amgylch De Cymru ar gyfer grwpiau personol bach - uchafswm 4 person. Dim ond un grŵp a dderbynnir ar bob taith. 14 taith i ddewis o’u plith, neu fe all y cwsmeriaid lunio’u cynllun eu hunain. Mae’r teithiau i gyd yn cynnwys gwasanaethau tywysydd a gyrrwr. Mae pecynnau gwyliau byr i Dde Cymru hefyd ar gael, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer anghenion unigol gan gynnwys trefnu gwestai a throsglwyddo o’r maes awyr. Mae modd codi o unrhyw westy neu Ganolfan Groeso yn ardal Caerdydd.
Fe ellir trefnu ar gyfer teithiau o leoliadau/meysydd awyr eraill yn y DU.
Cyswllt: Stephen Dickinson WHG

FF +44 (0) 29 2086 4713

www.southwalestours.com

Wales Visitor Services
Yn arbenigo mewn cynorthwyo cleientiaid preifat deallus, proffesiynol neu aeddfed i ymgynefino â Chymru. Trafod ac ymweld â phob agwedd o fywyd, diwylliant, hanes a theipograffeg Cymru. 1-4 person ar ymweliadau gyda gyrrwr/tywysydd. Ieithoedd a siaredir: Saesneg
Cyswllt: John Wake

FF + 44 (0) 7989 033 227

E JohnWake@wales-tours.com

G www.wales-tours.com

Welsh Welcomes / Croeso Cymreig
Gwasanaeth teithio llawn i grwpiau ac unigolion.
Ieithoedd a siaredir: Saesneg, Ffrangeg, Pwyleg a Rwsieg
Cyswllt: Hugh Jordan

FF +44 (0) 8451 306 070

www.welsh-welcomes.co.uk

Where When Wales
Yn cynnig Gwyliau Gweithgareddau, Cyrsiau Gweithgareddau, Gweithgareddau Awyr Agored, Teithiau Cerdded a Digwyddiadau Cymdeithasol.
FF + 44 (0) 1633 869 700

G www.wherewhenwales.com

 

Cymdeithas Canllawiau Twristiaeth Swyddogol Cymru (WOTGA)
Unig Ganllawiau Swyddogol a Chanllawiau Bathodyn Glas Cymru. Yn rhoi croeso i dywyswyr sy'n rhoi naws bersonol i deithiau bysus a theithiau cerdded, a chyngor i yrwyr a chyflwyniadau darluniadol. Cyngor ar gynllunio teithiau, Atyniadau a lleoliadau anarferol.
FF +44 (0) 1633 663 364

www.blue-badge-guides.com/WOTGA.html

You're Welcome
Teithiau wedi’u cynllunio’n arbennig o amgylch Cymru, yn arbenigo mewn Golff a Gerddi.
Cyswllt: Geoff Stickler

FF + 44 (0) 1348 875 663