Home > Diwydiant Teithio > Ffeithiau am Gaerdydd
Ffeithiau am Gaerdydd
Gan gyfuno hanes gyda moderniaeth, mae Caerdydd yn un o leoliadau gorau’r DU i ymwelwyr, ac felly nawr yw’r adeg i ymweld â phrifddinas Cymru a darganfod y cyfan amdani:
— Ymsefydlodd y Rhufeiniaid yng Nghaerdydd yn 55 O.C. gan adeiladu caer filwrol ar safle Castell Caerdydd
— Daeth Caerdydd yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955
— Heddiw, mae gan Gaerdydd boblogaeth o 310,000 ac mae’n denu dros 11 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn
— Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf gwastad ym Mhrydain, ac mae’n cael mwy o oriau o heulwen na Milan
—Bu datblygu Bae Caerdydd am gost o £1.8 biliwn - sef project adfywio mwyaf Ewrop ar lannau’r dŵr - a datblygu Canolfan Mileniwm Cymru yn ddiweddar am £102 miliwn, yn gymorth i roi Caerdydd ymhlith y pum lleoliad mwyaf poblogaidd ar gyfer teithio a busnes yn y DU.
— Mae gan y ddinas enw da fel canolfan ddysg ffyniannus, sy’n golygu y bydd gan Gaerdydd fwy o fyfyrwyr na’r un ddinas arall yn Ewrop erbyn diwedd y degawd.
— Enillodd Caerdydd wobr 'Dinas orau’r DU 2004' yng nghylchgrawn Men's Health, a nododd fod prifddinas Cymru yn “dref ifanc, gyfeillgar yn llawn trigolion cosmopolitaidd sydd â gwên ar eu hwynebau a hwythau’n gwybod eu bod yn mynd i rywle i gael hwyl."
—Ar ôl gwneud cais am deitl Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008, mae Caerdydd wedi’i dynodi’n ‘Ganolfan Ddiwylliant'. Cafodd y statws hwn ei atgyfnerthu gan agor Canolfan Mileniwm Cymru a chynnal Digwyddiadau fel Gwobr ryngwladol Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
—Mae Caerdydd wedi’i throi yn brifddinas i chwaraeon ers adeiladu Stadiwm y Mileniwm, gyda Digwyddiadau fel pencampwriaeth y chwe gwlad, Cwpan FA Lloegr a Rali Cymru GB. Mae disgwyl i Gaerdydd gael sylw byd-eang pellach yn y dyfodol, fodd bynnag, ar ôl cwblhau'r pentref chwaraeon gwerth £700 miliwn, yn cynnwys canolfan eira a phwll nofio Olympaidd, yn ogystal â thrwy ddigwyddiadau fel Cwpan Ryder yn 2010.
—Bydd statws Caerdydd fel un o 10 lleoliad siopa gorau’r DU yn cael hwb gyda datblygiad siopa newydd gwerth £315 miliwn yng nghanol y ddinas, a fydd yn gartref i siop adrannol fawr newydd yn ogystal â dwsinau o siopau eraill a sgwâr canoldirol.
— Mae Caerdydd wedi’i dynodi’n Brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd – gan annog masnachu moesegol a phrisiau teg i gynhyrchwyr o wledydd y trydydd byd.
Trefnu llety ar-lein
Cynigion arbennig
Canolfan Ymwelwyr
Diwrnodau allan a theithiau