Home > Diwydiant Teithio
Croeso i Gaerdydd, Prifddinas Cymru!
Mae Caerdydd yn ddinas hynod o amrywiol, sydd hefyd ag elfen bersonol iawn. Mae gan y brifddinas amryw o lefydd diddorol sy’n aros i ryfeddu'ch cwsmeriaid. Gyda mynediad rhwydd a phatrwm cywasgedig canol y ddinas, ynghyd â hanes sy’n ymestyn o gyfnod y Rhufeiniaid i adfywiad diweddar y Bae, mae dewis anhygoel o lefydd i’w gweld a phethau i’w gwneud. Boed yn newydd neu’n hen, mae gan Gaerdydd rywbeth at ddant pawb.
Mae’n bleser gan adran Marchnata Lleoliad Caerdydd gynnig teithiau gwahanol ar amryw o themâu i chi; o amgueddfeydd a diwylliant, cestyll a theatrau, chwaraeon a gweithgareddau, i ddigwyddiadau a gwyliau. Fe allwn ni helpu gyda llety, bwytai, cynigion siopa, teithiau tywys, teithio, Parcio i Fysus, cyfleusterau hwylio a llawer mwy – a’r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae gennym hefyd Gerdyn Croeso i'r Ddinas a'r Rhanbarth, gyda mynediad am ddim a gostyngiadau i’ch cwsmeriaid yn yr holl brif Atyniadau, ar deithiau i weld golygfeydd ac mewn detholiad o fwytai a siopau.
Tudalennau i'r Diwydiant Teithio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymweld â Chaerdydd, neu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan y ddinas i'w chynnig, chwiliwch drwy'r tudalennau penodol hyn i'r Diwydiant Teithio. Mae’r tudalennau’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio mewn grwpiau a manylion am ein gwasanaethau. Mae yma wybodaeth ddefnyddiol ar bopeth o westai pum seren i westai gwely a brecwast, ac mae mapiau i barcio bysus hefyd ar gael ar-lein.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio +44 (0) 29 2087 1739 neu drwy anfon e-bost at: marketing@cardiffandco.com












