Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau

Diwrnodau Allan a Theithiau

 

Rhywbeth at Ddant Pawb


Mae Caerdydd, prifddinas fywiog Cymru, yn synnu ei hymwelwyr gyda’i hamrywiaeth o Atyniadau a’i hawyrgylch gosmopolitaidd. Mae’n lle delfrydol un ai am benwythnos neu fel rhywle i aros os am wyliau hirach yn yr ardal.

 

 

 

 


Diwrnodau allan ar Fws Caerdydd o £3.00 y diwrnod

Ar gyfer gwerth am arian a diwrnodau allan gwych, rhowch gynnig ar docynnau dydd arbennig Bws Caerdydd. Mae’r prisiau’n dechrau ar £3.00 i bob oedolyn, £2.00 i bob plentyn a £7.00 i deulu o 5 ar gyfer teithio yng Nghaerdydd a’r ardal. Gellir prynu'r tocynnau dydd hyn ar y bws. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma neu chwiliwch am syniadau am ddiwrnodau yma.
 

Trefnu Teithiau

 

Os ydych chi’n chwilio am daith wedi’i threfnu, boed gyda thywysydd, ar eich pen eich hun, wedi'i chynllunio'n arbennig neu mewn grŵp, a honno'n gadael o Gaerdydd neu o Lundain, cliciwch ar y botwm ‘Trefnu Teithiau’ ar ochr chwith y dudalen i weld beth sydd ar gael.
 


Diwrnodau Allan ar Thema

Gwahoddir chi i roi cynnig ar un o’n diwrnodau allan ar thema, ac mae’r dewis yn eang – boed yn daith ar y dŵr o amgylch y glannau ym Mae Caerdydd, yn siopa yn yr arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd, yn mwynhau bara brith neu gacennau cri yn Amgueddfa Werin Cymru, yn canu gydag un o Gorau Meibion enwocaf y byd, neu’n yfed peint o gwrw’r ddinas, Brains SA, yn un o dafarndai neu glybiau poblogaidd Caerdydd. Mae'r ddinas fwyaf bywiog a ffyniannus yn Ewrop yn addo y bydd rhywbeth at ddant pawb - y cyfan sydd angen ei wneud yw dewis eich diwrnod o'r rhestr ar y chwith.