Home > Digwyddiadau > Cystadleuaeth Yr Eisteddfod Cenedlaethol
Cystadleuaeth Yr Eisteddfod Cenedlaethol
Enillwch!
Y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw ateb un cwestiwn syml a llenwi’r ffurflen isod:
Ym mha flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ddiwethaf?
Sicrhewch fod eich cais wedi’i anfon a’i gadarnhau erbyn 22 Awst 2008
Telerau ac Amodau
1. Rhaid darparu enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost wrth gofrestru am y gystadleuaeth.
2. Dim ond un cais y person a dderbynnir.
3. Dim ond ceisiadau a gyflwynir trwy www.croesocaerdydd.com a fydd yn cael eu derbyn.
4. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Awst 2008. Byddwn yn dewis enillydd ar hap ddydd Mercher 27 Awst 2008.
5. Cysylltir â’r enillydd gan Gaerdydd ar y Cyd drwy alwad ffôn a thrwy e-bost. Dim ond yr enillwyr fydd yn cael eu hysbysu.
6. Mae’r gwobrau i gyd yn ddibynnol ar argaeledd.
7. Rhaid i’r gwobrau gael eu cymryd fel y’u nodir, ac maent ar gael nes 30 Tachwedd 2008.
8. Ni fydd dewis amgen o arian ar gael..
9. Pryd bwyd 3 chwrs i ddau a choffi hyd at gwerth o £75 yn rhad am ddim. Rhaid bwcio. Nid yw’n gymwys ynghyd â unrhyw gynnig arall.
10. Nid yw Caerdydd ar y Cyd yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau hwyr neu geisiadau coll oherwydd y we.
11. Rhaid i bob ymgeisydd roi eu manylion llawn fel y nodir uchod, a chydymffurfio â’r rheolau i gyd er mwyn bod yn gymwys i ennill y gwobrau. Ni chymerir cyfrifoldeb dros geisiadau anghymwys na cheisiadau a wneir trwy dwyll.
12. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 wrth ymgeisio am y gystadleuaeth.
13. Nid yw’r gystadleuaeth hyn ar agor i weithwyr na chontractwyr Caerdydd ar y Cyd nac unrhyw berson sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’r sefydliad neu gynnal y gystadleuaeth, neu aelodau uniongyrchol o’u teuluoedd.
14. Mae penderfyniad Caerdydd ar y Cyd yn derfynol ymhob sefyllfa, gan gynnwys unrhyw beth nas ymdrinnir ag ef uchod, ac ni fydd gohebiaeth.
15. Mae Caerdydd ar y Cyd yn cadw’r hawl i ddiddymu’r gystadleuaeth ar unrhyw bwynt, os yw’n angenrheidiol yn eu barn nhw, ac os oes amgylchiadau yn codi y tu allan i’w rheolaeth.
16. Efallai y bydd gofyn i enillwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo, ac mae Caerdydd ar y Cyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio enwau a chyfeiriadau enillwyr / lluniau ohonynt mewn cyhoeddusrwydd.
17. Ystyrir fod ymgeiswyr wedi derbyn y rheolau hyn ac yn cytuno â hwy wrth ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth hon.
18. Mae’r cytundeb hwn wedi’i lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
19. Gêm yw’r gystadleuaeth hon wedi'i hyrwyddo gan Gaerdydd ar y Cyd.
Prosesir unrhyw ddata a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon yn unol â Gofynion y Ddeddf Diogelu Data. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio gan Gaerdydd ar y Cyd neu ei datgelu i eraill at ddiben a ganiateir yn ôl y gyfraith yn unig.




Trefnu llety ar-lein
Cynigion arbennig
Canolfan Ymwelwyr
Diwrnodau Allan a Theithiau