Home > Cynadleddau > Swyddfa Gynadleddau

Ein Gwasanaethau ni i chi

Swyddfa Gynadleddau Caerdydd yw eich siop un stop ble caiff eich holl gwestiynau eu hateb a’r dewisiadau gorau eu cynnig sy’n addas i’ch digwyddiad chi. Ein nod yw gwneud eich bywyd chi’n haws, a’ch cynorthwyo i fanteisio i’r eithaf ar eich cyfnod yng Nghaerdydd. Dyma restr o’r hyn y gallwn ei gynnig a rhai sylwadau gan ein cwsmeriaid.

Rydym yn cynnig y Gwasanaethau canlynol am ddim:

Dewis Lleoliad

Fe allwn ni wneud y gwaith anodd hwn ar eich rhan, gan chwilio am leoliadau sy’n addas i’ch anghenion, yn ogystal â gwneud cynnig cynhwysfawr.
 

Gwasanaeth Trefnu Llety Ar-lein i Gynrychiolwyr

Mae ein system newydd ar-lein, www.conferencebookings.co.uk, yn ei gwneud hi’n haws byth i gynrychiolwyr drefnu eu Llety. Byddwn yn defnyddio’ch logo chi a bydd gennych god unigryw i weld eich safle. Mae’r system hon ar gael i ddigwyddiadau pan fydd dros 100 yn bresennol. Byddwn yn trafod nifer y llefydd a’r cyfraddau gyda’r gwestai.

 

Ymweliadau Cynefino

Os na allwch chi benderfynu ar leoliad, cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau a gallwn drefnu ymweliad cynefino i chi, ble byddwn yn dangos lleoliadau posibl.

Paratoi Dogfennau Cais a Chyflwyniadau

Hoffem i chi ddod i Gaerdydd. Er mwyn i ni allu’ch helpu i wneud eich penderfyniad, gallwn baratoi ceisiadau unigol neu ymweld â chi i wneud cyflwyniad.

Mynediad a Thrafnidiaeth Leol

Fe allwn ni roi manylion am drafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd ac yn y ddinas, a gwybodaeth am gwmnïau llogi preifat.

Teithiau/Rhaglenni Cymdeithasol

I wneud eich cyfnod gyda ni’n fwy pleserus, mae gennym fanylion am wahanol deithiau posibl o amgylch atyniadau Caerdydd a’r cylch.

Gwasanaethau Cymorth

Os bydd angen cyngor am adloniant, trafnidiaeth, materion technegol, goleuo/llwyfannu ac ati, fe allwn ni roi rhestr gynhwysfawr i chi o gyflenwyr lleol.

Gwybodaeth i Gynrychiolwyr

Er mwyn i gynrychiolwyr Cynadleddau fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad â Chaerdydd, fe allwn ni roi llyfrynnau yn nodi'r pethau i'w gweld a'u gwneud. Byddwn hefyd yn bresennol yn eich cynhadledd gyda’n stondin wybodaeth i roi cyngor ar unwaith.


 

Castell CaerdyddI gael rhagor o fanylion cysylltwch â ni’n uniongyrchol.
E-BOST conference@cardiffandco.com

FFÔN +44 (0) 29 2087 1846
FFACS +44 (0) 29 2023 2058

 

  

 

 

 

Sylwadau

 

“Mae’n rhaid dweud y bu'r aduniad yn llwyddiant mawr ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich gwaith yn dod o hyd i westy addas i ni. Mae angen i BAFUNCS a Chaerdydd ddiolch yn fawr iawn i chi a’ch cydweithwyr yn y Swyddfa Gynadleddau."

Duncan Morris, Cynllunydd a Chofrestrydd, BAFUNCS 2005

 

“Nid yn unig y cawsom sylwadau hynod o gadarnhaol yn ystod y gynhadledd, ond roedd yr adborth ffurfiol ac anffurfiol ar ôl y gynhadledd yn eithriadol o gadarnhaol, gyda gwerthfawrogiad mawr iawn o'r lleoliad. Rydym yn ddyledus iawn i chi am eich gwaith parhaus a’ch gofal ac am fod ar gael drwy gydol yr adeg, yn ogystal â’ch cefnogaeth wresog.”

Peter Grundy, Llywydd, IATEFL 2005

 

“Nodyn cyflym i ddiolch i chi am eich holl gymorth gyda’r Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2005. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto mewn Digwyddiadau yn y dyfodol.”

Hannah Raybould, Cynhyrchydd, Gŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2005