Home > Cynadleddau
Croeso i Gaerdydd, Prifddinas Cymru!
Mae’r byd wedi deffro ac yn sylweddoli bod Caerdydd yn lleoliad gwych i gynnal cynadleddau. Mae’n brifddinas ifanc sy’n gywasgedig, yn fywiog ac yn gosmopolitaidd – ac yn rhoi gwerth rhagorol am arian. Dros y degawd diwethaf mae Caerdydd wedi’i hadnewyddu’n llwyr, gan adeiladu ar ei hanes i ddod yn brifddinas ddynamig ar Gymru. Mae'n lle sy'n gyfuniad o'r hen a'r newydd, a'r rheiny’n uno i greu dinas fodern a chyffrous. Caerdydd yn llwyddiannus dros ben
Cylchlythyr Cynadleddau
Mae’n Cylchlythyr Cynadleddau yn rhoi'r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i chi am Gaerdydd. Os hoffech chi dderbyn ein Cylchlythyr (ar gael yn Saesneg yn unig), sy'n cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, anfonwch e-bost i conference@cardiff.gov.uk gan roi ‘Susbscrive Conference Newsletter’ fel pwnc, a’r manylion canlynol yn y neges ei hun: enw, sefydliad, cyfeiriad, ffôn, e-bost a gwefan.
Fe allwch chi lwytho ein Cylchlythyr Cynadleddau, Rhifyn 1, Gwanwyn 2006 (2.5mb, ffeil pdf) yma.
Os hoffech chi gael copi o’n Llyfryn Cynadleddau (ar gael yn Saesneg yn unig) anfonwch eich cais, ynghyd â’ch manylion cyswllt a’ch cyfeiriad, i conference@cardiffandco.com. Neu fe allwch chi lwytho’r Llyfryn Cynadleddau drwy glicio ar y llun ar y chwith (yn saesneg yn unig, 5 mb, PDF).
Llyfryn Cynadleddau

















