English Cymraeg francais español Deutsch

Gwasanaethau Cynhadledd

Yr hyn allwn gynnig

Mae Canolfan Cynhadledd Caerdydd yn siop un-stop sy'n cynnig atebion amhleidiol i'ch cwestiynau yn ogystal â'r dewisiadau gorau ar gyfer eich digwyddiad.  Ein nod yw eich helpu chi i drefnu'r digwyddiad heb ffwdan ac i wneud y gorau o'ch amser yng Nghaerdydd.

Rydym ni'n cynnig y Gwasanaethau amhleidiol isod am ddim:

* Dewis Lleoliad - Ni sy'n chwilio am y lleoliad ar eich rhan, gan chwilio am le sy'n ateb eich holl ofynion a pharatoi cynnig cynhwysfawr.
* Gwasanaeth Trefnu Llety i Gynrychiolwyr - I wneud bywyd yn haws i'r cynrychiolwyr gallwn ddylunio ac argraffu ffurflenni trefnu Llety ar eich rhan gan ddefnyddio eich logo a'ch lliwiau corfforaethol gan nodi dewis o westai sy'n gallu cynnal Digwyddiadau ar gyfer o leiaf 100 o gynrychiolwyr.
* Ymweliadau Cyfarwyddo - Os na fyddwch chi'n gallu dewis, cysylltwch â'r Ganolfan Cynadleddau i ni gael trefnu i'ch tywys o amgylch y lleoliadau posibl.
* Paratoi Dogfennau'r Cynnig a Chyflwyniad - Am ein bod yn awyddus i chi ddod i Gaerdydd rydym ni'n fodlon paratoi cynigion unigol neu ymweld â chi a chynnig cyflwyniad i'ch helpu i ddod i benderfyniad.
* Mynediad a Chludiant Lleol - Gallwn ddarparu manylion cludiant cyhoeddus ar gyfer teithio i Gaerdydd ac oddi yno, o amgylch y ddinas yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth am gwmnïau llogi preifat.
* Teithiau/Rhaglenni Arbennig - Mae gennym fanylion am deithiau lleol sy'n nodi'r atyniadau amrywiol ledled Caerdydd er mwyn sicrhau fod eich ymweliad yn un pleserus.
* Gwasanaethau Cymorth - Mae gennym restr gynhwysfawr o gyflenwyr lleol os oes angen cyngor am faterion technegol, llwyfan/goleuadau ayb arnoch.
* Gwybodaeth ar gyfer Cynrychiolwyr - Gallwn ddarparu pamffledi cynrychiolwyr yn nodi'r holl bethau sydd i wneud yng Nghaerdydd i'w helpu i fwynhau eu hymweliad.  Byddwn hefyd yn gosod stondin wybodaeth i gynnig cyngor uniongyrchol yn ystod eich cynhadledd

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â ni yn uniongyrchol yn
info@cardiffconferencebureau.co.uk
Ffôn: +44 (0) 29 2034 7800
Ffacs: +44 (0) 29 2037 7653

 




Site Map | Rhestr o Ddigwyddiadau | Y Tîm Diwydiant Teithio | Rhestr o Westai | Prifddinas Gynadleddau | Teithiau Hanner Diwrnod | Rhestr o Fariau | Canolfan Groeso | Trefnu Teithiau | Theatrau | Gwyliau Siopa yn y Ddinas | Orielau | Rhestr o Gyrsiau Golff | Trefnu Ar-lein | Atyniadau | Hanes Caerdydd | Beth i’w Wneud a’i Weld | Ffeithiau am Gaerdydd | Rhestr o Fwytai | Teithiau Un Diwrnod | Swyddfa Gynadleddau | Digwyddiadau | Chwaraeon a Hamdden | Llety | Teithiau Dau Ddiwrnod | Dewch i'n Cyfarfod | Gwyliau Bwyd | Bae Caerdydd | Bywyd Nôs | Celfyddydau ac Adloniant | Lleoliadau a Llety | Gwyliau Draig Goch a Chennin Pedr | Ble i Fwyta | Rhestr o Glybiau | Gwers Gymraeg | Atyniadau a Bwytai | Diwrnodau Allan a Theithiau | Trefnu Teithiau | Gwyliau Hwyl i’r Teulu | Gwasanaethau | Ble i Aros | Gefeilldrefi | Rhaglenni Cymdeithasol | Beth Sy’n Newydd | Caerdydd Wyrdd | Paradwys i Siopwyr | Gwyliau Chwaraeon – i'w Gweld a'u Gwneud | Gwasanaethau i’r Diwydiant Teithio | Rhaglen Llysgenhadon | Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd | De Cymru | Canllaw i’r Anabl | Parcio i Fysus | Gwybodaeth am Gaerdydd | Canllaw i Hoywon | Trefnwyr Mordeithiau | Sut i Gyrraedd | Gwybodaeth Gyffredinol | Diwydiant Teithio | Cynadleddau | Amdanom Ni a Chysylltu â Ni


Home > Gwasanaethau Cynhadled