Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Ble i Fwyta a yfed

Bwyd a Diod

 

Mermaid QuayMae Caerdydd yn dod yn fwyfwy adnabyddus am ansawdd ei fwytai, gyda chogyddion yn ddigon lwcus i gael cynnyrch o'r radd flaenaf gan gynnwys cig oen a chig eidion Cymreig arbennig, llysiau o ansawdd da a physgod cregyn ac eogiaid gwyllt.
 
Yn ardal newydd yr Hen Fragdy yng nghanol y ddinas, fe allwch chi yfed a gwledda yn yr awyr agored - ar bopeth o dapas i fwyd Thai, ac mae bwytai newydd yn ymddangos mewn sawl lle gyda dewis diddiwedd o arlwy.
 
Os bydd rhywun yng Nghaerdydd yn gofyn am Brains, yna cyfeirio maen nhw at y bragdy lleol, sy'n bragu hoff beint y ddinas.Ardal fywiog Heol Eglwys Fair yw’r man prysuraf yn y ddinas ar benwythnosau, yn llawn bariau a chlybiau, tra bo Lôn y Felin a Chei’r Fôr-forwyn yn lleoliadau poblogaidd eraill.

 

Bwyty Bosphorus ym Mae caerdyddI gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i gael Rhestr o Fwytai neu Restr o Fariau (y ddwy restr ar gael yn Saesneg yn unig).