Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Paradwys i Siopwyr
Paradwys i Siopwyr
Gyda'r enwau mwyaf, y siopau mawr enwocaf, a dwsinau o siopau bychain ac annibynnol yn arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd y ddinas, mae gan Gaerdydd enw fel un o'r mannau gorau yn y DU i siopa.
Heol y Frenhines
Prif ardal siopa Caerdydd yw Heol y Frenhines, ble ceir siopau poblogaidd gan gynnwys Office, Fopp, Qube a Zara. Ym mhen dwyreiniol Heol y Frenhines, mae Canolfan Siopa’r Capitol, sy’n gartref i siopau enwog fel Benetton, Fat Face a Virgin Megastore.
Canolfan Siopa Dewi Sant
Hon yw prif ganolfan siopa dan do Caerdydd, gyda dewis o dros 200 o siopau dillad, bwyd a diod, gan gynnwys siopau mawr fel Debenhams a Marks and Spencer, a siopau enwog eraill fel y Disney Store, Miss Selfridge a Peacocks.
Arcedau
Mae gan arcedau Caerdydd lawer o'u nodweddion Fictorianaidd ac Edwardaidd o hyd, gyda dwsinau o siopau bach unigryw a chaffis ar eu hyd. Mae pob math o anrhegion Cymreig i’w cael yn yr arcedau hyn, o decstilau Cymreig a wnaed â llaw i lwyau caru a chrysau rygbi Cymru. Ewch i Arcêd Morgan ac Arcêd y Castell i weld y ffasiynau diweddaraf mewn siopau annibynnol fel Woodenwood neu Chessmen, neu ymlaciwch gyda phryd o fwyd mewn caffis fel y caffi llysieuol Crumbs, neu The Plan sy'n arbenigo mewn bwyd a diod organig a masnach deg.
Yr Aes
Ar hyn o bryd mae gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo yn yr Aes, ac fel rhan o’r gwaith bydd cwmni llyfrau enwog Borders yn agor siop newydd cyn y Nadolig 2006. Yn yr Aes y mae siop fawr Howells yn ogystal, lle ceir popeth o'r ffasiwn ddiweddaraf a nwyddau trydanol i win a wisgi Cymreig yn y siop fwyd. A chadwch lygad am y TARDIS, gan y defnyddir Howell's yn aml fel lleoliad ffilmio ar gyfer cyfres deledu BBC Cymru, 'Doctor Who'.
Marchnadoedd
Galwch heibio’r Farchnad Ganolog Fictorianaidd – sy’n cynnig bwydydd a nwyddau o bob math, o bysgod ffres i gawsiau Cymreig traddodiadol, o roliau o ffabrig i ffonau symudol. Mae Marchnad Fwyd Glan-yr-Afon hefyd yn gwerthu bwydydd lleol, a chaiff honno ei chynnal ar lannau afon Taf bob dydd Sul rhwng 10am a 2pm.

















