Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Trefnu Teithiau
Trefnu Teithiau
Gallwch ddod i adnabod Caerdydd yn rhwydd, gyda theithiau yn gadael o sawl lleoliad yn y DU. Os am deithio mewn grŵp, ar eich pen eich hun neu am gael taith wedi’i threfnu’n arbennig ar eich cyfer chi: rydych chi’n sicr o fwynhau ym mhrifddinas Cymru.
Dewiswch o ble'r hoffech chi drefnu'r daith:
Gadael o Gaerdydd
Os ydych chi’n ymweld â Chaerdydd am wyliau byr, gofalwch eich bod yn gweld y cyfan sydd yno i'w weld gydag un o'r teithiau hyn:
Bay Island Voyages
Am ddiwrnod llawn hwyl ar y dŵr, trefnwch daith gyda Bay Island Voyages ar eu cwch pwerus 12 sedd. Bydd cyfle i wibio o amgylch Bae Caerdydd ar daith 30 munud, teithio’r arfordir am awr, neu fynd ar Antur ar Ynys am ddwy awr.
Bydd cyfle i weld Ynysoedd Echni a Steepholm, lle bu safleoedd milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’u cyfoeth o adar gwahanol. Efallai y bydd ambell i Forlo Llwyd yn gwneud ymddangosiad hefyd. Bydd digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, a bydd y criw gwybodus yn barod i ateb eich holl gwestiynau am fywyd gwyllt.
Bydd cyfle i weld Ynysoedd Echni a Steepholm, lle bu safleoedd milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’u cyfoeth o adar gwahanol. Efallai y bydd ambell i Forlo Llwyd yn gwneud ymddangosiad hefyd. Bydd digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, a bydd y criw gwybodus yn barod i ateb eich holl gwestiynau am fywyd gwyllt.
Bws o Amgylch y Ddinas
Ewch am daith o amgylch Canol y Ddinas a’r Bae. Bydd sylwebaeth fyw i’ch tywys o amgylch 11 o safleoedd aros, gan gynnwys Castell Caerdydd, y Ganolfan Ddinesig, Bae Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm. Cewch neidio ymlaen ac i ffwrdd fel y dymunwch. (Oedolion £7, gostyngiadau £5, amseroedd gwahanol gydol y flwyddyn – cadarnhewch ymlaen llaw)
Bws Dŵr Caerdydd
Mae’r Bws Dŵr yn mynd ar daith 30 munud reolaidd o amgylch Bae Caerdydd, heibio’r holl Atyniadau, gyda chyfle i ddod oddi arno ym Morglawdd Bae Caerdydd, Cei’r Fôr-forwyn neu Stadiwm y Mileniwm. (oedolion £2, plant £1, un ffordd)
Trên Ffordd Bae Caerdydd
Mae’r trên ffordd yn teithio’n rheolaidd o Gei’r Fôr-forwyn i Forglawdd Bae Caerdydd. Mae’r daith yn pasio’r holl Atyniadau yn y bae, gyda sylwebaeth fyw am hanes a chyfrinachau’r ardal. (taith o ryw 50 munud, oedolion £2, plant £1.50, un ffordd)
Taith Ysbrydion Arswydus Caerdydd
Gyda hanesion am ysbryd yr Amgueddfa Genedlaethol, dreigiau Cymreig a hyd yn oed man claddu'r Frenhines Buddug, mae'r daith ysbrydion o amgylch canolfan ddinesig Caerdydd a Pharc Cathays yn ffordd ddifyr a diddorol o ddarganfod hanes y ddinas. Mae’r daith, sydd yng ngofal Tywysydd Bathodyn Glas, yn ddelfrydol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn hefyd, gan nad oes rhiwiau o gwbl. (Mae’r teithiau’n para tua awr, oedolion £5, plant £3 - dylid trefnu ymlaen llaw)
Dragonride Trikes
Ffordd unigryw i weld golygfeydd Caerdydd a’r ardal – taith ar gefn beic modur. Mae teithiau byr ar gael o amgylch Bae Caerdydd a chanol y ddinas, neu gellir Trefnu Teithiau hwy i Fannau Brycheiniog neu Fro Morgannwg. Darperir dillad lledr, helmedau neu fandanas, a gellir trefnu i’ch codi o’ch gwesty ar gyfer y teithiau hwy.
Thomas of Barry
Ffôn +44 (0) 1446 733 019, www.thomasofbarry.com
Mae’r cwmni hwn yn trefnu ‘Taith Treftadaeth y Rhondda’ (hanner diwrnod ar ddydd Llun), ‘Taith y Cymoedd, Llyfrau a’r Bannau’ (diwrnod cyfan ar ddydd Gwener) a 'Taith Castell Coch a Chaerffili' (hanner diwrnod ar ddydd Gwener). Mae modd eich codi o bob gwesty mawr yng Nghaerdydd, ac o Neuadd y Ddinas.
See Wales
+44(0)1685 889 089 neu ewch i http://www.seewales.com/
Yn Trefnu Teithiau dydd o Gaerdydd, yn gadael o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas.
WhereWhenWales
+44(0)1633 869 700, www.wherewhenwales.com/specials.htm
Yn trefnu popeth o abseilio i deithiau tywys, rasio ceffylau i ddiwrnodau iechyd a maldod, a hynny i ymwelwyr a phobl leol. Os ydych chi’n chwilio am brofiad yn llawn hwyl a chyfle i gael hwyl gyda phobl Cymru, dyma'r peth i chi!
Yn trefnu popeth o abseilio i deithiau tywys, rasio ceffylau i ddiwrnodau iechyd a maldod, a hynny i ymwelwyr a phobl leol. Os ydych chi’n chwilio am brofiad yn llawn hwyl a chyfle i gael hwyl gyda phobl Cymru, dyma'r peth i chi!
Yn Gadael o Lundain:
Back-Roads Touring Co.
+ 44(0)20 8566 5312, www.backroadstouring.co.uk
Yn trefnu taith bedwar diwrnod – ‘Red Dragon Mini Tour' – o amgylch De Cymru a Chaerdydd, ynghyd â theithiau eraill.
Yn Gadael o Ddinasoedd Eraill y DU
Teithiau Dydd ar y Northern Belle
Ewch am daith ddiwrnod ar y Northern Belle, trên moethus sy'n adlewyrchu cyfnod y 1930au. Mae teithiau dydd i Gaerdydd yn gadael o’r Amwythig, Darlington, Leeds, Newcastle ac Efrog. Mae’r daith yn cynnwys brecwast hwyr ar y trên, taith ar fws, amser rhydd yng Nghaerdydd, cinio 4 pryd, siampên a gwin ar y daith yn ôl. I gael rhagor o fanylion ac i drefnu, cliciwch yma

















