Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Gwyliau Siopa yn y Ddinas
Gwyliau Siopa yn y Ddinas
Mae Caerdydd yn baradwys i siopwyr gyda dros 650 o siopau i’w crwydro. Tra bo sawl siop genedlaethol fawr yn y ddinas, mae ganddi hefyd amrywiaeth anhygoel o siopau bach annibynnol, yn gwerthu'r cynnyrch a'r nwyddau gorau. Gellir dod o hyd i’r rhain yn y canolfannau siopa newydd neu yn yr hen arcedau siopa Edwardaidd a Fictorianaidd. Gallwch ddarganfod anrhegion arbennig, dod o hyd i ddillad crand, a phrynu bargen mewn siop ail law. Mae'r ffaith fod y siopau hyn yn agos at ei gilydd yng nghanol y ddinas yn hwyluso’r profiad, ac mae digon o lefydd i barcio a llefydd niferus i orffwys ac ymlacio a chael bwyd neu ddiod.Unwaith i chi ddadflino, gallwch fwrw ymlaen â’ch siopa neu weld y ddinas o safbwynt gwahanol ar y bws o amgylch y ddinas. Dyma ganllaw i Wyliau Siopa yn y Ddinas.
Heol y Frenhines
Mae gan Heol y Frenhines sawl siop stryd fawr boblogaidd, a thair o ganolfannau siopa dan do, sef Canolfan Dewi Sant, Arcêd y Frenhines a Chanolfan y Capitol - sef y newyddaf a’r fwyaf modern o’r tair. Gyda’i gilydd, mae ynddynt dros 100 o siopau’n gwerthu ffasiwn, esgidiau, teganau, gemwaith, llyfrau a nifer o lefydd cyffrous i fwyta neu fwynhau coffi. Ardal i gerddwyr yn unig yw Heol y Frenhines, ac mae wastad nifer o artistiaid stryd i'w gweld - o fwytawyr tân i ddychanwyr.
Arcedau
Mae gwir galon siopau Caerdydd i’w chael yn yr Arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd mawreddog, y canolfannau siopa enwocaf drwy Gymru i gyd. Mae ganddynt gymysgedd o siopau dillad bach, caffis, siopau celf a chrefft, siopau bwyd arbenigol a siopau cerddoriaeth - i enwi dim ond ychydig. Yr enwocaf o’r cyfan yw Arcêd y Castell, a adeiladwyd yn 1887. Mae gan y tu mewn galeri bren ar y llawr cyntaf, ac ail lawr pren yn crogi uwchben hwnnw. Yn dyddio'n ôl i 1858, yr Arcêd Brenhinol yw arcêd siopa hynaf y ddinas, gyda rhai o'r wynebau siop Fictorianaidd gwreiddiol yn dal i'w gweld. Arcêd Morgan o 1897 sydd yn y cyflwr gorau, gyda ffenestri Fenisaidd ar y llawr cyntaf, ac wynebau siop gwreiddiol o bren tenau. Gyda’i gilydd, mae’r arcedau yn ymestyn am bellter o 797m (2,655 troedfedd).
Golygfeydd Dinesig
Rhag ofn y byddai’n well gennych chi gyfnewid y canolfannau siopa am olygfeydd dinesig, neu am gael hoe o’r holl brynu, ewch am dro o'r stryd fawr i'r Ganolfan Ddinesig enwog. Gyda phensaernïaeth debyg i Washington D.C., yr adeiladau Edwardaidd hyn yw'r mwyaf trawiadol yn Ewrop ym marn llawer. Neu os yw’ch coesau’n flinedig ar ôl y siopa di-ben-draw, neidiwch ar Bws o Amgylch y Ddinas i gael taith o amgylch golygfeydd Caerdydd. Mae sylwebaeth ar gael ar y daith boblogaidd hon, sy’n pasio Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm a Bae Caerdydd. Mae’r bysus yn rhedeg yn rheolaidd drwy'r dydd, bob dydd gydol y flwyddyn. Mae’n stopio mewn sawl man yng nghanol y ddinas, gan gynnwys y tu allan i’r Castell ym mhen uchaf Heol Eglwys Fair.
Y Farchnad Fictorianaidd
Mae gan y Farchnad Fictorianaidd Dan Do ar Heol Eglwys Fair nifer o stondinau sydd wedi perthyn i’r un teulu ers cenedlaethau – mae’r farchnad ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwerthir popeth yma, o gawsiau Cymreig, pysgod, a phasteiod arbenigol i ffabrigau Indiaidd, recordiau ac anrhegion. Codwyd yr adeilad Fictorianaidd yn 1891 allan o wydr a haearn. Mae’n debyg iawn i orsaf reilffordd yn ystod yr oes stêm, gyda thŵr cloc pren yn sefyll yn uchel yn y canol.
Siopa Cymreig
Mae digon o gyfleoedd yn y ddinas i chwilio am anrhegion neu nwyddau o Gymru - ar gyfer rhywun arall neu i chi'ch hun. Mae Castle Welsh Crafft (yn 1 Heol y Castell, dros y ffordd i Gastell Caerdydd, ffôn +44(0)29 2034 3038) yn enwog am ei grefftau llaw, gemwaith, llwyau caru a nwyddau eraill amrywiol. Mae gan Things Welsh (yn rhif 5, Arcêd Heol y Dug) amryw o anrhegion gwahanol hefyd. Os ydych chi’n chwilio am orchuddion neu glustogau cyfoes, mae’n werth galw heibio Melin Tregwynt (yn rhif 25 yr Arcêd Brenhinol, ffôn +44 (0) 2920 224997). Gan arbenigo mewn blancedi, a gynhyrchir ym melin y teulu ger Hwlffordd, mae'r siop yn gwerthu amrywiaeth unigryw o gynlluniau mewn dwsinau o liwiau a steiliau. Mae ponsios, pyjamas, matiau diod, cardiau cyfarch ac anrhegion eraill ar gael hefyd. Cwmni Welsh Royal Crystal yw prif wneuthurwr crisial Cymru, a hynny â llaw. Ewch i’r siop hon yn rhifau 21-25 Arcêd y Castell (ffôn +44 (0) 1597 811005) ac edmygwch sgiliau crefft sy’n ganrifoedd oed. Mae’r holl ddarnau crisial yn cael eu chwythu’n unigol o’r geg a’u torri â llaw, ac mae'r siapiau a’r addurniadau yn adlewyrchu dylanwadau traddodiadol a Cheltaidd. Os oeddech chi’n credu mai i Albanwyr yn unig y mae ciltiau, yna ewch i'r Welsh Tartan Centre (Arcêd Castell, +44(0)29 2022 8272). Gan adfer hen draddodiad y brithwe Cymreig rhanbarthol, dyma’r unig siop yng Nghaerdydd lle gellir prynu brithwe cenedlaethol Cymru, sef ‘brithwe Dewi Sant’. Mae sgarffiau, teisi a chiltiau ar werth, a gallwch hefyd brynu llwyau caru traddodiadol Cymreig ac anrhegion eraill (mai tei brithwe yn £16).
Aur o Gymru
Am wir anrheg Gymreig, prynwch rywfaint o'r 'Clogau', sef aur o Gymru, yn siop emwaith Jonathan Davies (33 Heol Eglwys Fair, +44 (0) 2920 226875). Wedi’i echdynnu o fwynglawdd bychan ym mryniau Cymru, mae'r aur ymhlith y mwyaf prin yn y byd. Cafodd modrwy briodas y Frenhines ei greu o aur o’r mwynglawdd hwn, ond gan mai dim ond ychydig bach o aur Clogau sydd yn y rhan fwyaf o’r darnau yn y siop, mae nifer o’r modrwyau, tlysau crog a chlustdlysau yn fforddiadwy iawn.

















