Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Gwyliau Hwyl i’r Teulu
Gwyliau Hwyl i’r Teulu
Mae gan Gaerdydd a’r fro fwy na digon i ddifyrru plant yn ystod gwyliau llawn hwyl i'r teulu. Mae gennym nifer o amgueddfeydd rhyngweithiol, Atyniadau hanesyddol i’w gweld ac aceri o barciau hyfryd yn cynnig amryw o weithgareddau awyr agored.Ewch am dro i fyd yn llawn gwyddoniaeth a thechnoleg yn Techniquest Bae Caerdydd, sy’n sicr o roi mwynhad i blant o bob oed. A hoffech chi danio roced, lansio balŵn aer poeth neu rasio gar trydan? Mae dros 160 o arddangosfeydd ymarferol, gyda phosau a gweithgareddau i ddifyrru’r teulu i gyd. Mae sioeau hefyd yn y Theatr Wyddoniaeth a theithiau o amgylch y Bydysawd yn y Planetariwm. Gall ymwelwyr gynnal eu harbrofion eu hunain yn y Labordy a’r Ystafell Ddarganfod.
Nepell o fan hyn mae Canolfan Mileniwm Cymru, yn sefyll uwch pob adeilad arall ym Mae Caerdydd. Mae’r ganolfan gelfyddydau ac adloniant hon yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae’n cynnig amrywiaeth wych o sioeau i blant a sioeau teuluol.
I weld y pantomeimau a’r sioeau teuluol gorau yn y ddinas, mae'n rhaid galw heibio'r Theatr Newydd. Agorodd y theatr Edwardaidd hon yn 1906, gan ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2006.
Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cadw’r holl deulu’n ddiddig am oriau, gydag arddangosfeydd rhyngweithiol, arddangosfeydd hanes naturiol a gweithdai celf i blant.
Mewn 100 acer o gefn gwlad, mae Sain Ffagan yn gartref i un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf Ewrop – a chyda mynediad am ddim mae'n lle perffaith i dreulio diwrnod allan gyda'r teulu. Mae gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan dros ddeugain o adeiladau sydd wedi’u symud fric wrth fric o bob cwr o Gymru a’u hailgodi yn yr amgueddfa. Mae’r adeiladau’n cynnwys plasty urddasol, bwthyn chwarelwr, tai fferm, teras o chwe bwthyn, tollty a phentref Celtaidd. Yn yr adeiladau, mae crefftwyr yn gweithio i ddangos hen sgiliau traddodiadol.
Camwch yn ôl mewn amser i Bentref Canoloesol Cosmeston, pentref o’r bedwaredd ganrif ar ddeg mewn ardal hyfryd. Gallwch fynd am dro ar eich pen eich hun neu gael taith dywys gyda phentrefwr o’r canol oesoedd, a gweld â’ch llygaid eich hun sut oedd bywyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Neu ewch am dro o amgylch Llyn Cosmeston, y gwlypdir a'r goedwig.
Mae Parc Treftadaeth y Rhondda ac Amgueddfa Lofaol Cymru ill dau yn rhoi darlun o ddiwylliant a chymeriad hynod cymoedd glo De Cymru, a hynny mewn ffordd ddifyr ac addysgol i bawb o bob oed. Gallwch weld sut oedd bywyd glowyr o dan y ddaear, mynd ar daith ryngweithiol ac ymweld â stryd bentref o'r 1950au. Gallwch hyd yn oed gael taith o dan y ddaear gyda chyn-lowyr a phrofi sut oedd bywyd go iawn yn y pyllau!













