Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Gwyliau Draig Goch a Chennin Pedr
Gwyliau Draig Goch a Chennin Pedr
Symbolau enwocaf Cymru yw’r Ddraig Goch a’r cennin pedr. Maent yn amlwg iawn ym mhrifddinas Cymru gan fod hanes a threftadaeth y wlad yn bwysig iddi, hyd yn oed os yw Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop a'i bod wedi cael sylw rhyngwladol am ei datblygiadau modern a dynamig. Wrth grwydro’r amgueddfeydd, y cestyll hynafol a'r plastai, ac wrth wrando ar y corau, boed hynny o ddiddordeb cyffredinol neu benodol i chi, rydych chi'n sicr o gael profiad heb ei ail. Dyma ganllaw i Wyliau Draig Goch a Chennin Pedr.
O Ddyddiau’r Celtiaid Hyd Heddiw
Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan (15 munud yn y car o Gaerdydd) yn un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac yno y mae atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’r cyfan hefyd am ddim. Mae'r amgueddfa'n dangos sut yr arferai pobl Cymru fyw dros y pum can mlynedd diwethaf, ac mae ymwelwyr yn cael darlun o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli ar dir Castell Sain Ffagan, sef plasty ysblennydd o’r unfed ganrif ar bymtheg.Mae'r tir parc 100 acer yn cynnwys adeiladau fel y pentref Celtaidd, ysgol, capel a gweithdai ymhle mae crefftwyr, fel y gof a'r casgennwr, yn dangos eu sgiliau.
Corau Meibion Cymru
Mae gan Gymru draddodiad corawl heb ei ail, ac mae’r Corau Meibion enwog yn sicrhau bod hwnnw’n parhau heddiw. Mae eu hanes yn y cymunedau agos a ffurfiwyd yn ardaloedd y pyllau glo a'r diwydiannau haearn yng Nghymoedd y De, ac yn chwareli llechi'r Gogledd. Mae croeso i chi eistedd a gwrando ar ymarferion y rhan fwyaf o gorau, sy'n aml yn brofiad yr un mor wefreiddiol â chyngerdd, gyda chyfle i weld beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni.
Bob nos Lun, rhwng 1930 a 2130 o'r gloch, fe allwch chi fynd i ymarferion Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd yng Nghlwb Rygbi Parc yr Arfau Caerdydd (Ffôn +44 (0) 29 20 627 519). Bob nos Fercher, rhwng 1930 a 2200 o’r gloch, gallwch wrando ar Gôr Meibion Caerdydd yn Eglwys y Methodistiaid Conway Road, Caerdydd (Ffôn: +44 (0) 29 20 790 905). O bryd i’w gilydd, efallai y bydd corau’n cynnal cyngerdd neu’n cael seibiant, ac felly ni fydd ymarferion. Rhag cael eich siomi, cysylltwch â’r côr ymlaen llaw i gadarnhau’r trefniadau.
Bob nos Lun, rhwng 1930 a 2130 o'r gloch, fe allwch chi fynd i ymarferion Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd yng Nghlwb Rygbi Parc yr Arfau Caerdydd (Ffôn +44 (0) 29 20 627 519). Bob nos Fercher, rhwng 1930 a 2200 o’r gloch, gallwch wrando ar Gôr Meibion Caerdydd yn Eglwys y Methodistiaid Conway Road, Caerdydd (Ffôn: +44 (0) 29 20 790 905). O bryd i’w gilydd, efallai y bydd corau’n cynnal cyngerdd neu’n cael seibiant, ac felly ni fydd ymarferion. Rhag cael eich siomi, cysylltwch â’r côr ymlaen llaw i gadarnhau’r trefniadau.
Tyrau a Thyredau
A hwnnw’n sefyll yng nghanol y ddinas, mae gan Gastell Caerdydd hanes sy’n ymestyn yn ôl bron i 2000 o flynyddoedd. Bydd eich tywysydd yn eich arwain trwy’r tyrau gothig i weld yr ystafelloedd godidog a mawreddog. Gallwch hefyd weld y gorthwr Normanaidd o’r ddeuddegfed ganrif – mae’n werth dringo’r holl ffordd i weld y golygfeydd gwych dros y ddinas. Mae Castell Cochar gyrion Caerdydd yn gastell tylwyth teg o’r iawn ryw. Mae ei dyrau siâp côn a’i dyredau main yn sefyll ar gopa bryncyn coediog. Adeilad canoloesol oedd hwn yn wreiddiol, ond drwy'r canrifoedd cafodd y cynllun ei weddnewid ac mae'r castell bellach yn debycach i un o stiwdio Walt Disney. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd yr ystafelloedd eu hailaddurno'n fawreddog mewn dull Fictorianaidd llawn dychymyg.
Aur Du
Cafodd y cyfoeth a luniodd Gaerdydd heddiw ei greu gan Aur Du – sef glo. Er mwyn darganfod y dylanwad a gafodd glo ar ddatblygiad Caerdydd yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ewch i Barc Treftadaeth y Rhondda, amgueddfa lo arbennig. Ymunwch â chyn-löwr o dan y ddaear, ewch yn y ‘gawell’ i ‘waelod y pwll’, a gweld â’ch llygaid eich hun sut oedd y Cymry’n cloddio am lo. Mae arddangosfeydd, stryd bentref o'r cyfnod, oriel gelf a llawer mwy hefyd i'w gweld yno.
Mae Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown yn casglu, cadw a chyflwyno hanes Tiger Bay a'r Dociau.Mae'r arddangosfeydd, y llyfrau a'r deunyddiau eraill sydd yno'n cynnwys lluniau, dogfennau ac atgofion y bobl leol, ac mae'n rhoi darlun hynod o ardal a arferai fod yn un o borthladdoedd glo mwyaf y byd. Dafliad carreg o Ganolfan Butetown mae Crefft yn y Bae. Mae’n werth bwrw golwg ar yr oriel o’r tu allan, ac ar yr adeilad a’i ffrâm hynod o haearn. Y tu mewn, mae Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru yn arddangos ac yn hyrwyddo’r gorau o dalent Gymreig, ac mae gan y sefydliad hwn enw da drwy’r byd am ansawdd ac arloesi artistig.
Yôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg
Mae Pentref Canoloesol Cosmeston yn Broject Treftadaeth unigryw ym Mhrydain. Mae’r pentref hwn o’r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi’i ailadeiladu ar ei safle gwreiddiol, ac mae yno adeiladau a gerddi canoloesol, yn ogystal â rhywogaethau prin ac amgueddfa fechan. Bydd tywysydd mewn dillad o'r cyfnod yn rhoi darlun hynod i chi o fywyd gwerinol y bedwaredd ganrif ar ddeg, neu gallwch fynd ar daith eich hun gyda'n system sain CD symudol. Mae Digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn fel twrnameintiau, ymladd canoloesol, saethyddiaeth, crefftau, Digwyddiadau calan gaeaf a gwyliau haf.













