Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Gwyliau Chwaraeon i'w Gweld a'u Gwneud
Gwyliau Chwaraeon ac i'w Gweld a'u Gwneud
Gydag un o feysydd chwaraeon gorau Ewrop yng nghanol y ddinas, mae'r awyrgylch ar ddiwrnod gemau yng Nghaerdydd yn anhygoel, ac yn un o'r rhesymau pam fod y ddinas yn un o'r lleoliadau mwyaf poblogaidd ar y cyfandir i gynnal gornestau o bob math.
Rhoddodd Stadiwm y Mileniwm Gaerdydd ar fap chwaraeon y byd, ac yn ogystal â Chwpan Rygbi’r Byd, mae rownd derfynol cwpan yr FA wedi’i chynnal yno chwe gwaith. Bob blwyddyn, bydd gemau rygbi a phêl-droed o'r radd flaenaf yno, ynghyd â rasio ceir (gan gynnwys Rali Cymru GB), rasio beiciau modur a motorcross.
Y drws nesaf i Stadiwm y Mileniwm mae Parc yr Arfau Caerdydd, sy’n gartref i ddau dîm rygbi lleol Caerdydd. Mae Clwb Rygbi Caerdydd a sefydlwyd yn 1876 yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, tra bo Gleision Caerdydd, a sefydlwyd yn 2003, yn chwarae yn y Gynghrair Geltaidd gystadleuol ac yn y Cwpan Eingl-Gymreig.
Nid rygbi yw’r unig chwaraeon poblogaidd ym Mhrifddinas Cymru, wrth gwrs. Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth ym Mharc Ninian, ddwy filltir i’r gorllewin o ganol y ddinas. Mae Clwb Criced Morgannwg yn chwarae eu gemau cartref ar faes criced Gerddi Sophia, tra bo’r Cardiff Devils yn chwarae yn y Gynghrair Hoci Ia Elitaidd o’u cartref ym Mae Caerdydd.
Ers creu llyn dŵr croyw 500 acer Bae Caerdydd, mae'r ardal yn wedi dod yn lleoliad rheolaidd ar gyfer chwaraeon dŵr o bob math, o’r Zap-Cats cyflym a chychod pwerus Fformiwla 3 i slalomau canŵio a hwylfyrddio,
Bydd nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yn dod i Gaerdydd yn y dyfodol hefyd. Yn 2007, bydd pedair o gemau'n cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm fel rhan o Gwpan Rygbi’r Byd 2007. Yn 2009, bydd Lloegr yn chwarae Awstralia yn un o gemau prawf Cyfres y Lludw yng Ngerddi Sophia, ac yn 2012 bydd pêl-droed Olympaidd yn cyrraedd y ddinas.
Stadiwm y Mileniwm
Ffôn: +44(0)87 0558 2582
Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Ffôn: +44(0)84 5345 1400
Criced Morgannwg
Ffôn: +44(0)87 1282 3401













