Home > Hafan
Croeso i Gaerdydd, y Porth i Gymru!
Welcome to Cardiff, Capital of Wales!
Dinas yn llawn gwrthgyferbyniadau yw Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae pensaernïaeth arloesol yn sefyll ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, tra bo aceri o barciau heddychlon dafliad carreg o brysurdeb canol y ddinas. Ar ben hynny, mae’r diwylliant Cymreig a’i ddreigiau a’i chwedlau’n cyd-fynd yn berffaith â’r ddinas fodern, llawn technoleg.
Rai munudau o’r castell a’r ddinas, mae dociau Bae Caerdydd ar eu newydd wedd, a’r rheiny’n llawn bwytai a chaffis o bob math. Ben ac ysgwydd uwchben popeth yn y Bae mae Canolfan Mileniwm Cymru, sy'n gartref i saith o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae strydoedd siopa pwrpasol Caerdydd a’u marchnadoedd yn llawn siopau poblogaidd y stryd fawr, ac mae'r arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd sy'n plethu drwy'r ddinas yn gartref i ddwsinau o siopau annibynnol bach lle gellir cael anrhegion unigryw, dillad a bwyd, gyda naws Gymreig i lawer ohonynt.
Rydych chi'n sicr o gael croeso cynnes iawn yn ein dinas.
Mwynhewch eich ymweliad!

Archebwch ar y we...
Derbyniwch ostyngiad hyd at 70% ar bris gwestai gan gynnwys cynigion unigryw trwy ein system archebu ar y wefan. Darllenwch sylwadau diduedd gan wahoddedigion blaenorol, a manteisio ar gyflymder y system archebu ar y we. Ewch i ymweld a'r tudalennau
Ble i aros am fwy o wybodaeth.
Cardiff Caerdydd
Nid Caerdydd yw'r unig beth sy'n datblygu ond eu delwedd yn hefyd. Breuddwydiol, creadigol, cyfoethogi - mae delwedd newydd Caerdydd wedi'i chynllunio fel ymbarel hyrwyddo sydd yn galluogi'r ddinas i ddangos eu hyn fel lle atyniadol, iach, a chynaliadwy i fyw, ac i weithio, i ymweld, ac i fuddsoddi ynddo. Rydym am i chi fod yn rhan ohono.
Dewch i ddarganfod sut.
Digwyddiadau
Y sioe gerdd poblogaidd
Chitty Chitty Bang Bang, yn y Canolfan Mileniwm ar y 3ydd o Orffennaf hyd at y 30 o mis Awst, yw un o uchel bwyntiau'r haf yng Nghaerdydd. Mae
gŵyl rhyngwladol bwyd a diod Caerdydd yn dychwelyd o Orffenaf 11-13, gydag adloniant o bewar ban byd yn Roald Dahl Plass. Mae'r Proms Cymraeg TSB yn neuadd dewi sant o Orffennaf 12-26. Mae'r
Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd ir brif ddinas rhwng yr 2-9 o mis Awst yn nghaeau Pontcanna, ac mae'r
carnifal MAS yn y
Bae ar yr 2ail o Awst.

Cynigion arbennig...
Er mwyn gweld cynigion gan westai,
Atyniadau, a bwytai yng Nghaerdydd, ewch i ymweld ar dudalen
cynigion arbennig. Saesneg y unig.

Gyda'r gorau yn y byd - Caerdydd
Mae Caerdydd wedi cael eu dewis gan Frommer's Guide fel un o’r 13 o'r llefydd gorau fyd-eang yn eu rhestr o gyrchfannau ar gyfer 2008. Mae llefydd arbennig ar draws y byd yn cael ei dewis gan dîm o ysgrifenwyr y teithlyfr. Ar gyfer y flwyddyn nesaf bydd Caerdydd ochr yn ochr a llefydd megis, Pittsburg, Denver, New orleans, St Lucia, Quito, a Seoul, i enwi ond ychydig. Er mwyn darganfod mwy, ewch i'r tudalen
Beth sy'n newydd

Ewch i ymweld a chartref Doctor Who...

Yn agosach nag y myddyliech chi...
Yn hawdd i gyrraedd o unrhyw le o fewn y Deyrnas Unedig, dim ond dwy awr o Lundain ar y trên, a dim ond naid byr o gyrchfannau Ewropeaidd eraill - ewch ir adran deithio er mwyn lawr lwytho mapiau dinasoedd a darganfod manylion o
sut i cyrraedd yno.

Taflen newyddion Visit Cardiff...
Cyhoeddiadau...
Os ydych yn dymuno teithlyfr neu am lawr lwytho y teithlyfr
Ble i aros diweddaraf, ewch i'r dudalen
brochure request. Yn Saesneg yn unig.
Cysylltwch â Chanolfan Groeso Caerdydd
