Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Diwrnodau Allan a Theithiau > Gwyliau Bwyd

Gwyliau Bwyd

Mae bwytai Caerdydd yn ffodus i allu defnyddio cynhwysion ffres a lleol o Gymru, fel cig eidion du, cig oen a bwyd môr ffres o borthladdoedd Cymru. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau blasau'r byd gyda bwytai Thai, Mecsicanaidd, Siapaneaidd, Twrcaidd a Hawaiiaidd yn sefyll ochr yn ochr â bwytai traddodiadol Eidalaidd, Indiaidd a Chymreig. Dyma ganllaw isod i fwyta yn y brifddinas.

 


Prydau o Lychlyn a gwin o Gymru

Mae Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, yng nghanol Bae Caerdydd, yn un o adeiladau mwyaf nodedig Caerdydd.Eglwys i Forwyr o Norwy yn nociau Caerdydd oedd hon yn wreiddiol, cyn iddi gael ei hailadeiladu a’i hagor fel canolfan ddiwylliannol yn 1992. Ers hynny, mae'r ganolfan yn adnabyddus fel lleoliad cartrefol gydag acwstig gwych ar gyfer perfformiadau cerddorol, gwerin a jazz.   Mae gan y ganolfan raglen o arddangosfeydd gydol y flwyddyn hefyd, yn yr Oriel i fyny’r grisiau.
Mae Gwinllan Llanerch, prif winllan Cymru, wedi’i lleoli 15 munud yn y car o Gaerdydd ym mhrydferthwch Bro Morgannwg. Mae gan y winllan, sy’n cynhyrchu’r Gwinoedd Cariad llwyddiannus, 20 acer o winllannoedd, gerddi a choetir. Mae yno Wely a Brecwast croesawus hefyd, felly mae croeso i chi aros ar ôl blasu'r gwin.


Ciniawau Cymreig

Gallwch gael cinio blasus yn y Celtic Cauldron (Arcêd y Castell, oddi ar Heol y Castell, ffôn: +44 (0) 29 2038 7185), sef bwyty bychan, cyfeillgar. Mae’n cynnig amrywiaeth o fwydydd cyflawn traddodiadol. Mae byrbrydau fel caws pob Cymreig, ffagots Cymreig a selsig llysieuol yn ei wneud yn lle gwych am ginio da (a chyflym). Neu rhowch gynnig ar bowlen o gawl - cawl Cymreig traddodiadol gyda chig oen a llysiau.
Os am baned o goffi a bara brith, ewch i'r Haze (yn yr Hen Lyfrgell yn yr Aes). Cewch fwynhau bwyd a diod gorau Cymru ac ymlacio yn yr awyrgylch braf. Mae siop fwyd yma hefyd, sy'n gwerthu cawsiau Cymreig, ymhlith pethau eraill.


Bwytai Cymreig

Mae’r Armless Dragon yn fwyty modern sy’n defnyddio nifer o gynhwysion lleol hyfryd. Gallwch fwynhau’r awyrgylch braf, a dewis o ddetholiad da o brydau arbennig y dydd.
Am noson ychydig yn wahanol, dewch am Wledd Gymreig draddodiadol o’r bymthegfed ganrif yn y gladdgell yng Nghastell Caerdydd (canol y ddinas) Bydd eich noson hwyliog yn cynnwys pryd pedwar cwrs o brydau lleol, gwin ac adloniant Cymreig.
 


Paradwys o Fwyd

Mae Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd yn cyrraedd Bae Caerdydd bob haf. Gall ymwelwyr â’r digwyddiad tri diwrnod flasu pysgod ffres, cawsiau bendigedig, gwirodydd cartref, siocled arbennig a llawer mwy, gyda stondinau o bedwar ban y byd gan gynnwys De Affrica, yr Almaen, Ffrainc, Sweden a Chymru. Mae adloniant am ddim hefyd, gyda cherddorion a pherfformwyr yn sicr o fynd i hwyliau a chodi archwaeth.

 


Marchnad Ffermwyr Caerdydd

Mae Marchnad Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon yn farchnad gymunedol ffyniannus, a'r brif farchnad ar gyfer cynnyrch Cymreig ac organig. Mae’n cynnig bwydydd ffres blasus am brisiau da i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’n lle gwych i brynu a blasu siytnis, caws gafr, bara Ffrengig, porc organig, llysiau a pherlysiau lleol. A pheidiwch ag anghofio am y sebon naturiol a’r cynnyrch masnach deg. Mae’r farchnad yn cael ei rhedeg gan fenter gymunedol nad yw’n gwneud elw, ac mae cyfle i gynhyrchwyr bach a lleol werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid - gan gael prisiau gwell.Mae’n cael ei chynnal bob dydd Sul rhwng 10:00 a 14:00 ar Arglawdd Fitzhamon (dros y ffordd i Stadiwm y Mileniwm). I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.riversidemarket.org.uk.


Caws Caerffili

Mae gan Gymru draddodiad hir o wneud caws. Roedd cawsiau cynnar yn debyg i gaws enwog Caerffili, ac yn cael eu socian mewn dŵr halen. Roedd yr un caws yn rhan o'r trefniant ysgariad o dan gyfreithiau Hywel Dda. Mae’n ymddangos mai'r wraig a fyddai'n cael y caws mewn dŵr halen, a'r gŵr yn cael y caws oedd yn hongian.
Roedd gan De-Ddwyrain Cymru arloeswyr yn y maes, gyda rhai o’r cawsiau mwyaf adnabyddus yn cael eu cynhyrchu yn y Fenni, a chaws Caerffili'n dod o’r dre honno ei hun. Castle Dairies Ltd (ffôn +44 (0) 29 20 981) yw unig gynhyrchydd Caws Caerffili sy'n cael ei wneud yng Nghaerffili, er bod gan y cwmni amryw o gynhyrchion 'Cymreig' eraill gan gynnwys Caws Cheddar Cymreig, Gloucester Dwbl, Leicester Coch a menyn hallt Cymreig. Mae rhai o’r rhain ar gael yn yr archfarchnadoedd hyn yng Nghymru: ASDA, Safeway a Somerfield.
 


Yr Offer i Greu Blas

Os ydych chi’n gogydd proffesiynol neu’n amatur sy'n dysgu, mae'n bwysig iawn bod gennych chi'r offer cywir cyn camu i’r gegin. Ewch i Kitchens (14 Heol Fawr, ffôn +44 (0) 29 20 229 814). Mae popeth i'r gegin ar gael yma, gyda digonedd o gyllyll a ffyrc, llestri, llyfrau coginio ac offer ergonomaidd i’r cogyddion mwyaf mentrus. Yn Lakeland (11 Heol y Cawl, ffôn: +44 (0) 29 2023 5050) fe ddewch chi o hyd i declynnau arloesol i'r gegin (ac i’r ystafell ymolchi, y tŷ a’r ardd hefyd) gan gynnwys setiau picnic, pethau storio bwyd, nwyddau brecwast, nwyddau trydanol a llawer mwy.
 


Blas o Gymru gartref

Gallwch gael blas o Gymru yn eich cartref eich hun drwy ddilyn y rysáit hwn ar gyfer cacen felys draddodiadol. Bara Brith
 

450g (1 pwys) o ffrwythau sych cymysg
300ml (1/2 peint) o de
2 lwy fwrdd o farmalêd
1 ŵy wedi’i guro
6 llwy fwrdd o siwgr brown meddal
1 llwy de o sbeis cymysg
450g (1 pwys) o flawd codi
mêl i roi sglein

1. Rhowch y ffrwythau i socian dros nos yn y te.

2. Y diwrnod wedyn, cymysgwch y marmalêd, yr ŵy, y siwgr, y sbeis a'r blawd. Rhowch y cyfan mewn tun torth 900g (1 pwys) a’i roi mewn ffwrn boeth (nwy 3, 325ºF, 170ºC) am awr a thri chwarter, neu nes bod y canol wedi’i goginio i gyd. Gofalwch o dro i dro nad yw’r top yn brownio’n ormodol, a rhowch haen o ffoil neu symudwch y tun i silff is yn y ffwrn os bydd angen.

3. Unwaith y bydd wedi coginio, gadewch y Bara Brith i sefyll am 5 munud, yna trowch y tun ar hambwrdd oeri. Gan ddefnyddio brwsh toes, rhowch fêl dros y top.

4. Gweinwch y bara brith gyda menyn hallt a chaws Cheddar blasus. Storiwch mewn tun aerdyn.

Gellir newid blas Bara Brith drwy ychwanegu ambell i beth arall. Wrth socian y ffrwythau, rhowch wisgi yn lle chwarter o'r hylif. Neu fe allwch chi ddefnyddio dwy lwy fwrdd o farmalêd yn lle’r mêl a’r sudd ffrwythau. Gallwch hefyd roi sunsur wedi’i dorri o’r goes yn lle dwy lwy fwrdd o ffrwythau, a defnyddio marmalêd lemon yn lle’r mêl.