Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > De Cymru
De Cymru
Caerdydd yw’r porth i weddill Cymru, a bydd taith fer yn y car yn eich arwain at olygfeydd godidog Bro Morgannwg, at fryniau uchaf de Prydain ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac at y cestyll gwefreiddiol yng nghymoedd De Cymru. Dyma ddim ond ychydig o atyniadau De Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am atyniadau a Digwyddiadau yn Ne Cymru, ewch i www.southernwales.com.
Neu gallwch lawrlwytho llyfryn am Dde Cymru drwy glicio ar y llun ar y chwith (3,1005 Kb Pdf).
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am Docyn Flexi Rover De Cymru, sy’n rhoi tri diwrnod o deithio ar drenau a saith diwrnod o deithio ar fysus i chi am £30, a hynny heb unrhyw gyfyngiadau.
Arfordir Treftadaeth a Chefn Gwlad Morgannwg
Cymoedd De Cymru
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.southernwales.com.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg
Ewch tua’r dwyrain o Gaerdydd tuag at y ffin â Lloegr ac fe ddewch ar draws Dyffryn Gwy – ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac ardal sy’n llawn safleoedd hanesyddol fel Abaty Tyndyrn, Castell Cas-gwent a Chaer Rufeinig Caerleon. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau taith ar hyd llwybr Clawdd Offa, neu logi canŵ a theithio i lawr afon Gwy.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.visitwyevalley.com/.

















