Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Chwaraeon a Hamdden
Prifddinas Chwaraeon
Ar ôl cynnal Digwyddiadau fel Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999, Rali Cymru GB a Chwpan FA Lloegr ers 2001, mae Caerdydd yn enwog drwy’r byd fel lleoliad chwaraeon rhyngwladol o bwys, ac mae nifer o ddigwyddiadau mawr ar y ffordd yn y dyfodol hefyd. Bydd rhai o gemau cynnar Cwpan Rygbi'r Byd yn cael eu cynnal yma yn 2007, bydd tîm criced Lloegr a Chymru yn ymweld ar gyfer un o gemau prawf Cyfres y Lludw yn 2009, a bydd athletwyr Olympaidd yn dod i Gaerdydd ar gyfer y gystadleuaeth bêl-droed yn 2012.
Chwaraeon i’w Gweld
Rygbi Gleision Caerdydd
Mae modd gwylio rygbi o'r radd flaenaf ym Mharc yr Arfau Caerdydd, wrth i'r Gleision gystadlu yn y Gynghrair Geltaidd, Cwpan Heineken Ewrop a Chwpan Eingl-Gymreig Powergen. Cynhelir y gemau rhwng mis Awst a mis Mai. www.cardiffblues.com
Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Gallwch fwynhau pêl-droed o’r Bencampwriaeth gyda thîm mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae Dinas Caerdydd, neu’r Adar Gleision, yn chwarae eu gemau cartref ym Mharc Ninian, ac mae’r tymor yn ymestyn o fis Medi i fis Mai. www.cardiffcityfc.premiumtv.co.uk
Hoci Iâ Cardiff Devils
Mae tîm hoci iâ Caerdydd yn cystadlu yn y Gynghrair Hoci Genedlaethol rhwng mis Medi a mis Ebrill bob blwyddyn. O’u cartref newydd ym Mae Caerdydd, bydd tîm y flwyddyn nesaf yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y llynedd pan enillwyd y gwpan a chyrraedd rowndiau terfynol y gemau ail-gyfle. www.thecardiffdevils.com
Criced Morgannwg
Mae criced sirol a chriced cyflym Twenty20 yn cael eu gynnal yng Ngerddi Sophia - cartref Clwb Criced Morgannwg, dafliad carreg o ganol y ddinas. Cynhaliwyd y gêm undydd ryngwladol gyntaf yno yn 2006, a bydd y maes yn cael ei adnewyddu yn 2007 er mwyn gallu croesawu Cyfres y Lludw yn 2009. Ffôn 0904 064 1070, www.glamorgancricket.com
Pêl-Droed a Rygbi Rhyngwladol
Yng nghartref ysbrydol pêl-droed a rygbi Cymru, bydd Stadiwm y Mileniwm yn croesawu gemau cartref tîm rygbi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chyfres Ryngwladol yr Hydref bob blwyddyn. Yn 2006, bu Seland Newydd ac Ynysoedd y Môr Tawel yma. Stadiwm y Mileniwm hefyd yw lleoliad gemau cartref tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, a ddechreuodd ar eu hymgyrch eleni i ennill lle ym Mhencampwriaethau Ewrop 2008. Ffôn 0870 013 8600 www.wru.co.uk www.faw.org.uk
Chwaraeon i’w Gwneud
Chwaraeon Dŵr ym Mae Caerdydd
Diolch i Forglawdd Bae Caerdydd, mae ardal a oedd unwaith yn llawn fflatiau llaid bellach yn llyn 500 acer dŵr croyw ym Mae Caerdydd. Mae cystadlaethau chwaraeon dŵr yn cael eu cynnal yn rheolaidd yma gan gynnwys hwylio, polo canŵ, rasio cychod modur, hwylfyrddio, rasio cychod draig a sgïo dŵr. Bydd y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn dod â rhagor o gyfleusterau i’r Bae, gan gynnwys pwll nofio 50m, canolfan sgïo gydag eira go iawn, llawr sglefrio, siopau, casinos a chanolfan ganŵio a rafftio dŵr gwyn o safon Olympaidd. Ffôn +44 (0) 29 2087 7900, www.cardiffharbour.com
Golff
Bydd Cymru’n croesawu Cwpan Ryder yn 2010, gyda’r gemau’n cael eu chwarae yng Ngwesty’r Celtic Manor, 20 munud o Gaerdydd. I’r rheiny sy'n mwynhau cymryd rhan yn ogystal â gwylio, mae Gwesty, Cwrs Golff a Sba y Vale o fewn pellter agos, ac yno mae’r cwrs golff hiraf yn Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau golff arbennig eraill yn ardal Caerdydd, ffoniwch 0870 600 6088, www.greensofsouthernwales.com. Neu gallwch hefyd glicio yma i gael rhestr o’r cyrsiau golff yng Nghaerdydd a’r cylch (ar gael yn Saesneg yn unig)
Gweithgareddau Awyr Agored
Ugain munud o ganol y ddinas gallwch ddod o hyd i olygfeydd hyfryd a theithiau cerdded hamddenol ym Mro Morgannwg. Teithiwch ychydig yn bellach, ac fe gyrhaeddwch chi Fannau Brycheiniog, un o dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yno’n cynnwys dringo creigiau, ogofa, paragleidio, marchogaeth, canŵio, hwylio a beicio mynydd. Gallwch hefyd roi cynnig ar syrffio ar hyd arfordir Morgannwg, cerdded drwy Ddyffryn Gwy, neu hyd yn oed fynd am dro o amgylch dinas Caerdydd ei hun. www.adventure.visitwales.com

















