Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Celfyddydau ac Adloniant > Theatrau

Theatrau a Chyngherddau

 

Neuadd Dewi SantNeuadd Dewi Sant

Mae mwy o gyngherddau wedi’u darlledu o Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Dewi Sant na’r un lleoliad arall ym Mhrydain, o ganlyniad i'r amrywiaeth o gynyrchiadau sydd wedi’u cynnal yno. Mae’r neuadd yn fwyaf enwog fel lleoliad y Proms Cymreig blynyddol, ond mae hi hefyd yn croesawu cantorion rhyngwladol, comedïwyr, sioeau cerdd a dramâu. (Mae’r tocynnau’n amrywio o ran pris, o docynnau am ddim i docynnau £30)  
 
 


Canolfan Gelfyddydau'r Chapter

Mae gan y Chapter enw da fel un o ganolfannau celfyddydau mwyaf amrywiol Ewrop, sy’n cyfuno theatr, celf, ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth i gyd o dan un to. Mae gwyliau rheolaidd, Digwyddiadau ar themâu, gweithdai a darlithoedd yn sicrhau bod rhywbeth diddorol bob amser yn cael ei gynnal, ac mae'r bar a'r caffi rhagorol yn golygu ei fod yn lle gwych i sgwrsio rhwng sioeau. Drwy arbenigo mewn cwrw go iawn a chwrw Ewropeaidd, mae cyfle i chi fwynhau rhywfaint o ddiwylliant wrth dorri syched yn ogystal.
 


Y Theatr Newydd

Y Theatr Newydd

Ers agor yn 1906, mae’r theatr Edwardaidd hon wedi croesawu mawrion y llwyfan fel Laurel and Hardy. Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu'n ddiweddar, ac mae'n boblogaidd ymysg sioeau cerdd a dramâu teithiol. (Tocynnau’n amrywio o £6 - £30)

 

 

 


Theatr y ShermanTheatr y Sherman

Mae Theatr y Sherman wedi comisiynu mwy o ddramâu newydd na'r un theatr arall ym Mhrydain, gyda llawer ohonynt yn ymrwymedig i feithrin talent y dyfodol drwy raglen o brojectau ieuenctid.  (Tocynnau £10, gostyngiadau £8)

 


Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno cyngherddau opera, bale, dawnsio modern a sioeau cerdd rhyngwladol. Mae ‘Sherpas Celfyddydol’ yn cynnal teithiau o amgylch y Ganolfan ac mae perfformiadau cerddorol byw yn y cyntedd bob amser cinio. (Mae’r teithiau’n para tua awr ac yn cael eu cynnal gydol y dydd. Oedolion £5, Gostyngiadau £3. Tocynnau sioe £5-£35)