Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Celfyddydau ac Adloniant > Orielau

Orielau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gadawodd dwy chwaer gyfoethog o Gymru eu casgliad mawr o gelf i’r amgueddfa a’r oriel yng nghanol yr ugeinfed ganrif, sy’n golygu mai yng Nghaerdydd y mae un o'r casgliadau mwyaf o waith yr Argraffiadwyr y tu allan i Baris. Mae yma weithiau gan Renoir, Monet a Cezanne i'w gweld. (Mynediad am ddim, ar gau ar ddydd Llun)


Canolfan Gelfyddydau'r Chapter

Mae gan y Chapter enw da fel un o ganolfannau celfyddydau mwyaf amrywiol Ewrop, sy’n cyfuno theatr, celf, ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth i gyd o dan un to. Mae gan yr oriel arddangosfeydd gan artistiaid o bedwar ban y byd, ac mae'n lleoliad i'r Ŵyl Experimentica flynyddol, sy’n llawn rhai o weithiau celf mwyaf dynamig Prydain.


G39

Mae gan G39 dri llawr yn llawn o gelf ac mae'n enwog yn rhyngwladol fel un o brif leoliadau celf gyfoes Caerdydd. Mae gan yr oriel arddangosfeydd rheolaidd o waith graddedigion celf diweddar ochr yn ochr ag artistiaid rhyngwladol, ac mae'n rhoi sylw penodol i fewnosodiadau, ffotograffiaeth, fideo a cherfluniau.


Ffotogallery

Ffotogallery yw prif oriel ffotograffiaeth Cymru, gydag arddangosfeydd teithiol gan ffotograffwyr Cymreig a rhyngwladol; mae’r ganolfan hefyd yn cynnal projectau ffotograffiaeth rheolaidd, yn darparu cyfleusterau galw i mewn, ac yn cynnal cyrsiau ffotograffiaeth.


Galeri CBAT

 

CBAT - Yr Asiantaeth Gelf ac Adfywio yng Nghaerdydd, sy’n gyfrifol am gomisiynu gweithiau celf gyhoeddus o amgylch y ddinas. Mae gan y sefydliad oriel hefyd ym Mae Caerdydd, sydd ag arddangosfeydd gan artistiaid rhyngwladol a lleol.


TactileBOSCH

Agorodd TactileBOSCH fel cyfleuster celf newydd ym mis Mehefin 2000, mewn hen dŷ golchi Fictoraidd yn ardal Ystum Taf yng Nghaerdydd. Ers hynny mae’r oriel wedi datblygu'n oriel gelf arbrofol boblogaidd, yn cael ei defnyddio'n bennaf fel stiwdios i artistiaid ac fel man arddangos gwahanol. Mae gan yr oriel 10 o artistiaid preswyl, ac mae’n cynnig lle am ddim i artistiaid lleol amlygol. 

Trace

Mae Oriel Trace, sy’n cael ei rhedeg gan yr artist amlwg Andre Stitt, yn arbenigo mewn celfyddyd sy’n seiliedig ar amser law yn llaw â pherfformiad, mewnosodiad, ac elfennau rhyngweithiol a seiniol. Ynghyd ag arddangosfeydd y mis a pherfformiadau gan artistiaid rhyngwladol, bydd artistiaid teithiol yn rhoi cyflwyniadau byw unigol o dro i dro. Rhaid trefnu ymlaen llaw i weld y mewnosodiadau.


Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown

 
Wedi’i lleoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae’r ganolfan hon yn seiliedig ar gynllun unigryw ac arloesol. Mae’n cyfuno cyfraniad pobl leol ochr yn ochr ag ymchwilwyr, artistiaid a gweithwyr proffesiynol o’r cyfryngau. Mae’r ganolfan yn casglu, cadw, copïo a defnyddio hanesion llafar, hen ffotograffau a dogfennau eraill, ac yn trefnu arddangosfeydd a chyrsiau.
 

Oriel Washington

Mae oriel Washington yng nghanol Penarth ar agor 7 diwrnod o’r wythnos yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn – rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 10am a 5pm ar ddydd Sul. Mae’r oriel ar gau bob dydd Sul ar ddechrau'r flwyddyn.O'r dechrau mae'r galeri wedi bod yn boblogaidd ymhlith y rheiny sydd â diddordeb mewn celf newydd. Mae oriel Washington yn adnodd hynod o werthfawr i’r gymuned, ac yn un sy’n ceisio cefnogi cymaint o artistiaid o Gymru â phosibl bob blwyddyn!


Oriel y Castell

Amrywiaeth o waith ffigurol, tirwedd a chyfoes gyda nifer cyfyngedig o brintiau a cherfluniau gwreiddiol ar gael. Mae Oriel y Castell wedi bod yn gwerthu celf ers 10 mlynedd ac mae yno waith rhai o artistiaid gorau’r wlad. Mae popeth wedi'i fframio'n hardd, gan ddefnyddio'r deunyddiau gorau.


Crefft yn y Bae

Mewn hen warws morwrol, mae'r oriel yn arddangos crefftau o’r ansawdd uchaf gan ei haelodau.Ceir hefyd arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol, cyrsiau addysgol, cyfleusterau cynadledda a Chaffi Kemi’s.