Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Celfyddydau ac Adloniant > Bywyd Nôs

Bywyd Nôs

 

Heol Eglwys Fair

Mae’r sîn gyda’r nos yng Nghaerdydd yn cylchdroi o amgylch Heol Eglwys Fair gyda’i dewis eang o fariau, tafarndai a chlybiau, a’r cyfan yn agos at ei gilydd. Mae bariau poblogaidd fel Walkabout, Edwards a Life ar agor yn hwyr, ac os bydd y tywydd yn braf, gallwch fwynhau diod ar derasau awyr agored Lôn y Felin neu yn ardal yr Hen Fragdy.
 

Bae Caerdydd

Mae Cei’r Fôr-forwyn ym Mae Caerdydd hefyd yn fan poblogaidd ar gyfer Bywyd Nos ar y penwythnos, ac yn dechrau dod yr un mor boblogaidd yng nghanol yr wythnos.  Mae’r bariau yno'n cynnwys Salt, Terra Nova a’r bar dimsum a choctel Ba Orient, yn ogystal â dewis eang o fwytai. A gerllaw, mae Canolfan Red Dragon yn gartref i nifer o fariau a thafarndai, yn ogystal â sinema aml-sgrin a bowlio deg.
 

Heol y Brodyr Llwydion

Mae gan ardal Heol y Brodyr Llwydion ragor o ddewis i’r rheiny sydd am osgoi prysurdeb Heol Eglwys Fair ar benwythnosau, gyda bariau gwin a choctel chwaethus fel Fatcats, Tiger Tiger, Ha Ha’s  a Laguna.  A dafliad carreg oddi yno mae Plas Windsor, gyda bariau ffasiynol fel y Buffalo Bar, a’r bar di-fwg 33 Windsor Place.

 


Cathays

Gyda thair prifysgol a thros 25,000 o fyfyrwyr, nid yw’n syndod fod bywyd nos bywiog ar gael i fyfyrwyr Caerdydd, ac mae llawer o hwnnw wedi'i leoli o amgylch ardal Cathays. Mae’r bariau a’r tafarndai yma wedi’u hanelu at fyfyrwyr, gyda bargeinion ar ddiodydd, nosweithiau ar themâu, a bwyd rhad.  Chwiliwch am y bandiau byw sy’n chwarae yn y Social, yr awyrgylch di-fwg yn Bar En Route a’r ciniawau Sul enwog yn y Funky Buddha Lounge.
 

Cerddoriaeth Fyw

Mae artistiaid rhyngwladol fel Madonna, U2 a Robbie Williams i gyd wedi perfformio yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, a bydd bandiau’n aml yn ymddangos mewn neuaddau mawr fel Arena Ryngwladol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o’u teithiau drwy’r DU. Ond er mwyn clywed y bandiau a’r cerddorion lleol diweddaraf, yna ewch i glybiau llai sy'n arbenigo ar gerddoriaeth fyw fel yr enwog Glwb Ifor Bach neu Barfly Caerdydd.
 

Clybiau

Ffilmiwyd Human Traffic, y ffilm glybio gwlt, yng Nghaerdydd yn 1999 ac mae’r sîn glybiau yn dal mor gryf ag erioed.  Mae clybiau poblogaidd yn cynnwys Evolution, Creation a Wish, tra bydd sêr ac enwogion yn aml i'w gweld yn Soda Bar a Tantra. I gael manylion am ragor o glybiau a bariau, ewch i'n rhestr o glybiau (ar gael yn Saesneg yn unig)