Home > Beth i’w Wneud a’i Weld > Atyniadau
Atyniadau yng Nghaerdydd
Dyma ychydig yn unig o atyniadau Caerdydd. I gael rhestr lawn, defnyddiwch y peiriant chwilio (ar gael yn Saesneg yn unig). Ewch i’r dudalen Diwrnodau Allan a Theithiau i gael rhagor o syniadau am bethau i’w gwneud a’u gweld.
Castell Caerdydd
Efallai mai dim ond ers 100 mlynedd y bu Caerdydd yn ddinas, ond bu castell yma am bron i 2000 o flynyddoedd. Mae teithiau o amgylch ystafelloedd y castell yn cael eu cynnal gydol y dydd, neu gall ymwelwyr fwynhau mynd am dro yn y gerddi hyfryd yn unig. (Taith lawn: Oedolion £8.95, Plant £6.35)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Gadawodd dwy chwaer gyfoethog o Gymru eu casgliad mawr o gelf i’r amgueddfa a’r oriel yng nghanol yr ugeinfed ganrif, sy’n golygu mai yng Nghaerdydd y mae un o'r casgliadau mwyaf o waith yr Argraffiadwyr y tu allan i Baris. Mae yma weithiau gan Renoir, Monet a Cezanne i'w gweld. (Mynediad am ddim, ar gau ar ddydd Llun)
Stadiwm y Mileniwm
Pan na fydd y stadiwm yn cynnal gemau chwaraeon neu gyngherddau mawr, gallwch fynd ar daith o amgylch y stadiwm, sy'n dal 74,000 o bobl. Mae cyfle i gerdded drwy dwnel y chwaraewyr, gweld sedd y Frenhines yn y bocs Brenhinol a darganfod sut y cafwyd gwared ar y 'melltith' o ystafelloedd newid yr ymwelwyr. (Oedolion £6.50, plant £4 - archebwch ymlaen llaw)
Canolfan Mileniwm Cymru
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno cyngherddau opera, bale, dawnsio modern a sioeau cerdd rhyngwladol. Mae ‘Sherpas Celfyddydol’ yn cynnal teithiau o amgylch y Ganolfan ac mae perfformiadau cerddorol byw yn y cyntedd bob amser cinio. (Mae’r teithiau’n para tuag awr ac yn cael eu cynnal gydol y dydd. Oedolion £5, Gostyngiadau £4. Tocynnau sioe £5-£35)
Bae Caerdydd
Mae hen ardal y dociau yng Nghaerdydd wedi’i hailddatblygu yn y degawd diwethaf i greu Bae Caerdydd. Ceir yno lyn dŵr croyw mawr ar gyfer hwylio a chwaraeon dŵr, moethusrwydd Gwesty a Sba Dewi Sant, a Chei’r Fôr-forwyn - ble ceir bwytai niferus sy'n cynnig danteithion o bedwar ban y byd.
Arddangosfa Doctor Who
Cewch siawns i weld Cyberman, Dalek, anghenfil, gwisgoedd a chelfi o’r chyfres newydd, sydd wedi’i ffilmio yn bennaf yng Nghaerdydd. Mae’r arddangosfa rhyngweithiol yng nghanolfan y ddraig goch hefyd yn dangos chelfi o’r cyfres gwreiddiol, a siop Doctor Who. (Mynediad i Oedolion £5.50, Plant a Consesiynau £4, Teulu £16 – 2+2
'Y Tiwb' - Canolfan Groeso Bae Caerdydd
Mae Canolfan Groeso Bae Caerdydd, neu’r 'Tiwb' o roi ei henw arall iddi, yn gartref i arddangosfeydd am hanes a datblygiad Bae Caerdydd, gan gynnwys model ar raddfa fechan o’r holl ddinas. (Mynediad am ddim)
Techniquest
Ewch am dro i fyd o wyddoniaeth a thechnoleg yn Techniquest Bae Caerdydd, gyda dros 160 o arddangosfeydd ymarferol, posau a gweithgareddau i ddifyrru’r teulu i gyd. Mae sioeau hefyd yn y Theatr Wyddoniaeth a theithiau o amgylch y Bydysawd yn y Planetariwm. (Mynediad Oedolion £7.00, Plant £5.00)
Yr Eglwys Norwyaidd
Yn wreiddiol, sefydlwyd yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd i wasanaethu’r gymuned fawr o longwyr Norwyaidd a weithiai yn y dociau. Yn wir, yn yr eglwys hon y bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl - ond erbyn heddiw caffi a galeri gelf sydd yno. (Mynediad am ddim)
Y Senedd/ Adeilad y Lanfa
Gall ymwelwyr â’r Senedd - sef siambr drafod Llywodraeth Cynulliad Cymru - fynd ar daith o amgylch yr adeilad 'gwyrdd' neu wylio'r Cynulliad yn ymgynnull o'r galeri cyhoeddus. Y drws nesaf i’r Senedd, mae adeilad hanesyddol y Lanfa, sydd ag arddangosfa ryngweithiol yn esbonio gwaith y Cynulliad Cenedlaethol. (Mynediad am ddim)
Eglwys Gadeiriol Llandaf
Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn ‘ninas’ hynafol Llandaf, yw un o’r safleoedd crefyddol hynaf yn y DU. Mae’r eglwys yn dyddio'n ôl i 1107, ac yno mae’r cerflun modernaidd gan Syr Jacob Espstein - ‘Crist mewn Gogoniant’. (Mynediad am ddim)
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin
Cyfle i weld Cymru gyfan mewn diwrnod, yn un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf Ewrop. Mae gan y parc 100-acer dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol, wedi'u symud o wahanol ardaloedd yng Nghymru a'u hailgodi i ddangos sut y bu pobl Cymru'n byw dros y 500 mlynedd diwethaf. Ar agor o 10am – 5pm bob dydd, ac ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. (mynediad am ddim)
Castell Coch
Castell tylwyth teg yn cuddio yn y coed ar gyrion y ddinas. Fel yng Nghastell Caerdydd, cafodd y ffantasi Gothig hwn ei greu gan y pensaer William Burges ar gyfer trydydd Ardalydd Bute, dyn arall a oedd â diddordeb mawr yn y Canol Oesoedd, a dyn cyfoethocaf y byd yn ôl y sôn bryd hynny.













