Home > Hafan

Croeso i Gaerdydd, Prifddinas Cymru!

Welcome to Cardiff, Capital of Wales!



Happy St David's Day - Dydd Gwyl Dewi Sant Hapus


Yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, fe ddewch o hyd i atyniadau unigryw, adloniant o’r radd flaenaf a siopau gwahanol o ansawdd – â phopeth o fewn pellter cerdded. Saif pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, ac mae Bae Caerdydd yn cynnig adloniant i bawb. Mae’r wefan hon yn cynnig digon o wybodaeth sy’n cynnwys pethau i’w gwneud, atyniadau, digwyddiadau, llety, mapiau rhyngweithiol, sut i gyrraedd dinas Caerdydd a llawer iawn mwy! Mwynhewch eich ymweliad!

Ble i Aros

P’un ai yr ydych yn chwilio am westy moethus pum seren neu dŷ llety clyd, mae gan Gaerdydd ddigon o ddewis i blesio bob poced. Darganfyddwch fwy.

Ble i fwyta ac yfed

Mae gan Gaerdydd enw da ar gynnydd am fwytai o safon uchel, gyda’r prif gogyddion yn ddigon lwcus i gael gweithio gyda chynnyrch penigamp. Darganfyddwch fwy.


Beth i'w wneud a'i weld

Mae gan Gaerdydd ddigon i gadw’r holl deulu’n hapus. Cewch weld pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr â hanes 2000 o flynyddoedd oed. Bae Caerdydd yw un o ddatblygiadau glan y dŵr mwyaf cyffrous Ewrop ac mae canol y ddinas yn cynnig siopau o safon. Mwy

Cynigion Arbennig

Croeso i Gaerdydd

I ddarganfod mwy ynglŷn â chynigion arbennig gan westai, atyniadau a bwytai yng Nghaerdydd ewch at ein tudalen Cynigion Arbennig yma.(y ddwy restr ar gael yn Saesneg yn unig).

Digwyddiadau

Mae Caerdydd yn ddinas o ddigwyddiadau gyda rhaglen lawn ac amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Fe gewch fandiau rhyngwladol, digwyddiadau chwaraeon, theatr, a digwyddiadau diwylliannol. Cymerwch olwg ar restr lawn o ddigwyddiadau yma.



 

Ewch i ymweld a chartref Doctor Who...

Rydych yn medru codi map leoliadau Atyniadau Caerdydd sydd heyfd yn lleoliadau ar gyfer y ddwy gyfres Doctor Who a Torchwood. Gallwch hefyd gyfuno ymweliad ag arddangosfa Doctor Who ym Mae Caerdydd efo taith o’r lleoliadau.
 

                     teithlyfr hanfodol        

Cyhoeddiadau...

Os ydych yn dymuno teithlyfr neu am lawr lwytho y teithlyfr  Ble i aros diweddaraf, ewch i'r dudalen brochure request. Yn Saesneg yn unig.
 
 
 
 
 
 
 
 

Cysylltwch â Chanolfan Groeso Caerdydd

Ffôn: +44(0)29 2087 3573
E-bost: visitor@cardiff.gov.uk


catre hafan