Home > Hafan
Croeso i Gaerdydd, Prifddinas Cymru!
Welcome to Cardiff, Capital of Wales!
Yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, fe ddewch o hyd i atyniadau unigryw, adloniant o’r radd flaenaf a siopau gwahanol o ansawdd – â phopeth o fewn pellter cerdded. Saif pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, ac mae Bae Caerdydd yn cynnig adloniant i bawb. Mae’r wefan hon yn cynnig digon o wybodaeth sy’n cynnwys pethau i’w gwneud, atyniadau, digwyddiadau, llety, mapiau rhyngweithiol, sut i gyrraedd dinas Caerdydd a llawer iawn mwy! Mwynhewch eich ymweliad!
Ble i Aros
P’un ai yr ydych yn chwilio am westy moethus pum seren neu dŷ llety clyd, mae gan Gaerdydd ddigon o ddewis i blesio bob poced. Darganfyddwch fwy.
Ble i fwyta ac yfed
Mae gan Gaerdydd enw da ar gynnydd am fwytai o safon uchel, gyda’r prif gogyddion yn ddigon lwcus i gael gweithio gyda chynnyrch penigamp. Darganfyddwch fwy.
Beth i'w wneud a'i weld
Mae gan Gaerdydd ddigon i gadw’r holl deulu’n hapus. Cewch weld pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr â hanes 2000 o flynyddoedd oed. Bae Caerdydd yw un o ddatblygiadau glan y dŵr mwyaf cyffrous Ewrop ac mae canol y ddinas yn cynnig siopau o safon. Mwy
Cynigion Arbennig

I ddarganfod mwy ynglŷn â chynigion arbennig gan westai, atyniadau a bwytai yng Nghaerdydd ewch at ein tudalen Cynigion Arbennig yma.(y ddwy restr ar gael yn Saesneg yn unig).
Digwyddiadau
Mae Caerdydd yn ddinas o ddigwyddiadau gyda rhaglen lawn ac amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Fe gewch fandiau rhyngwladol, digwyddiadau chwaraeon, theatr, a digwyddiadau diwylliannol. Cymerwch olwg ar restr lawn o ddigwyddiadau yma.





























