English Cymraeg francais español Deutsch

Caerdydd Hoyw

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Caerdydd wedi dod yn un o'r dinasoedd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain i ymweld â hi.  Efallai oherwydd mai dyma gartref ysbrydol rygbi Cymru - lle mae'r chwaraewyr gorau'n eillio'u coesau.  Efallai oherwydd mai dyma fan geni difas Cymru Shirley Bassey a Charlotte Church, neu oherwydd bod noson allan yng Nghaerdydd bob tro'n gofiadwy. 

Mae Caerdydd yn dathlu ei chanmlwyddiant fel dinas a hanner canmlwyddiant fel Prifddinas Cymru yn 2005, ac mae nifer o ddigwyddiadau'n cael eu datblygu i nodi'r achlysur - gan gynnwys Mardi Gras mwy a gwell yn yr hydref a charnifal hirach a mwy bywiog yn yr haf. 

Bydd unrhyw un nad ydynt wedi ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar yn darganfod dwsinau o dafarndai, tai bwyta a gwestai newydd yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd.  Mae atyniadau traddodiadol Castell Caerdydd ac Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi cael eu huno nawr ag apêl fodern Stadiwm y Mileniwm a Chanolfan newydd Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd - sy'n cynnal operâu, sioeau cerdd a dawns ymysg perfformiadau eraill. 

Mae'r llwyfan hoyw yng Nghaerdydd mewn dwy ardal yn bennaf - Heol Siarl yng nghalon y ddinas a Bute Terrace, wrth ymyl yr orsaf drên.  Mae'r ddwy ardal funudau o Heol Eglwys Fair - prif ardal tafarndai Caerdydd, a Heol-y-Frenhines, prif ardal siopa'r ddinas.

Cysgu
 
Gwesty Courtfield, 101 Cathedral Road.  Ffôn +44(0) 20 2022 7701
www.courtfieldhotel.com  Mae'r gwesty hoyw hynaf yng Nghaerdydd funudau o'r castell a chanol y ddinas.

Gwely a Brecwast Morgraig, Gerllaw Caerdydd  Ffôn +44 (0) 7005 610098
Gwely a Brecwast hoyw cyfeillgar bach chwe milltir tu allan i'r ddinas.  Ystafelloedd sengl a dwbl â ffôn, ffacs a'r rhyngrwyd ar gael.  Addas ar gyfer arosiadau byr neu hir neu lety busnes a NI chaniateir ysmygu yn unrhyw un o'r ystafelloedd. 

Iechyd

Locker Room, 50 Heol Siarl, Ffôn: +44 (0) 29 2022 0388
www.lockerroomcardiff.com.  Wedi'i lleoli yng nghalon chwarter hoyw Caerdydd, mae'r Locker Room yn darparu sawna, ystafell ager, jacuzzi, lolfa deledu a chaffe. 

Xpose, www.x-pose.com.  Â'r bwriad o agor eleni, bydd gan X-pose gampfa, sawna a sba.  Wrth ymyl yr M4 a chanol y ddinas.


Bywyd Nos

Mae Caerdydd yn enwog am ei bywyd nos fywiog, yn enwedig ar Nos Wener a Nos Sadwrn.  Mae'r llwyfan hoyw i'w weld yn bennaf o gwmpas Heol Siarl a Bute Terrace - rhyw 10 munud oddi wrth ei gilydd, ac mae Cei'r Fôr-Forwyn nawr ym Mae Caerdydd yn cynnig dewis arall i lwyfan canol y ddinas. 

Tafarn y Golden Cross, 283 Heol Pont-yr-Aes, Ffôn +44 (0) 29 2034 3129, http://www.gxbar.com/.  Tafarn ferchetaidd i forwyr yn wreiddiol adeg ffyniant glo'r 19 Ganrif, mae'r Golden Cross erbyn hyn yn un o leoliadau hoyw mwyaf poblogaidd Caerdydd.  Mae adloniant rheolaidd yn cynnwys perfformiadau drag lleol a rhyngwladol, stripwyr a chwis tafarn traddodiadol.  Darperir prydau mawr o fwyd tan amser te - mae'r cinio dydd Sul rhesymol wedi dod yn arferiad gan y teulu hoyw Cymreig. 

The Kings Cross, 25 Stryd Caroline, Ffôn: +44 (0) 292064 9891.  Bar hoyw poblogaidd ar gornel chwarter caffe'r ddinas.  Mae'r llawr gwaelod mawr yn darparu byrbrydau a phrydau ysgafn a Digwyddiadau rheolaidd gan gynnwys comedi, caraoce a DJs byw. 

Bar XS, 35 Heol Siarl, Ffôn: +44 (0) 29 2040 0876.   Bar cyn clwb Clwb X.  Mae ei deras ardd fawr yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau haf hir ac ar gyfer ymlacio cyn mynd i'r clybiau. 

Detox, Harlech Court, Bute Terrace, Ffôn: +44 (0) 29 2034 2429
http://dvacardiff.com.  Caffi Detox yw lleoliad hoyw mwyaf newydd a ffasiynol Caerdydd sydd ar agor drwy'r dydd.  Mae'r bar yn wych ar gyfer cymdeithasu ac mae lleoedd mwy preifat ar gael yn y bwyty a'r bythau.  Ar agor yn hwyr bob nos cynhelir DJs byw a chabare yn rheolaidd.  Y lle i fynd cyn y clwb nos "Addiction".

Addiction, Harlech Court, Bute Terrace, Ffôn: +44 (0) 29 2034 2429
http.//dnacardiff.com.  Uwchben bar Detox, a lle dawnsio mawr a bythau eistedd preifat.  Stripwyr gwrywol a chynigion ar ddiodydd bob nos Wener.

Clwb Exit, 48 Heol Siarl: +44 (0) 29 2064 0102.  Clwb/bar bychan yng nghanol ardal hoyw'r ddinas.  Cerddoriaeth fyw.  Nosweithiau clwb rheolaidd ac awyrgylch gyfeillgar.

Clwb X, 35-39 Heol Siarl, Ffôn: +44 (0) 29 2040 0876.  Mae'r lleoliad hoyw mwyaf a'r mwyaf cyfeillgar yng Nghaerdydd wedi cael ei adnewyddu'n gyfan gwbl ar ôl tân ar ddiwedd 2004.  Mae gan y clwb ddau lawr dawnsio, tri bar, ac ystafelloedd gemau a theras ardd wedi ei gorchuddio.  Mae'r ystafell fusion yn chwarae 'hard-house', dawns a phop, neu mae'r ystafell camp yn chwarae clasuron disco a cherddoriaeth barti.  Mae careoci a breninesau drag yn ychwanegu at yr adloniant.

Minskys, Rhodfa'r Eglwys Gadeiriol, Ffôn: +44 (0) 20 2023 3128.  Unig far cabare Caerdydd sy'n arbenigo mewn sioeau drag.  Mae sioeau ar ddydd Iau, dydd Gwener, a dydd Sadwrn, ond mae'r bar a'r bwyty amser cinio ar agor bob dydd.

 

 




Site Map | Rhestr o Ddigwyddiadau | Y Tîm Diwydiant Teithio | Rhestr o Westai | Prifddinas Gynadleddau | Teithiau Hanner Diwrnod | Rhestr o Fariau | Canolfan Groeso | Trefnu Teithiau | Theatrau | Gwyliau Siopa yn y Ddinas | Orielau | Rhestr o Gyrsiau Golff | Trefnu Ar-lein | Atyniadau | Hanes Caerdydd | Beth i’w Wneud a’i Weld | Ffeithiau am Gaerdydd | Rhestr o Fwytai | Teithiau Un Diwrnod | Swyddfa Gynadleddau | Digwyddiadau | Chwaraeon a Hamdden | Llety | Teithiau Dau Ddiwrnod | Dewch i'n Cyfarfod | Gwyliau Bwyd | Bae Caerdydd | Bywyd Nôs | Celfyddydau ac Adloniant | Lleoliadau a Llety | Gwyliau Draig Goch a Chennin Pedr | Ble i Fwyta | Rhestr o Glybiau | Gwers Gymraeg | Atyniadau a Bwytai | Diwrnodau Allan a Theithiau | Trefnu Teithiau | Gwyliau Hwyl i’r Teulu | Gwasanaethau | Ble i Aros | Gefeilldrefi | Rhaglenni Cymdeithasol | Beth Sy’n Newydd | Caerdydd Wyrdd | Paradwys i Siopwyr | Gwyliau Chwaraeon – i'w Gweld a'u Gwneud | Gwasanaethau i’r Diwydiant Teithio | Rhaglen Llysgenhadon | Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd | De Cymru | Canllaw i’r Anabl | Parcio i Fysus | Gwybodaeth am Gaerdydd | Canllaw i Hoywon | Trefnwyr Mordeithiau | Sut i Gyrraedd | Gwybodaeth Gyffredinol | Diwydiant Teithio | Cynadleddau | Amdanom Ni a Chysylltu â Ni


Home > Llwyfan Hoyw